Diolch i roddion lleol, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda wedi prynu peiriant ECG cludadwy ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig Babanod yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.
Mae’r peiriant yn cael ei ddefnyddio i berfformio ECG ar fabanod sy’n cael eu geni’n gynamserol a’r rhai sydd angen gofal ychwanegol.
Mae peiriant ECG yn cofnodi gweithgaredd trydanol y galon ac yn diagnosio ac yn monitro triniaeth cyflyrau cardiaidd.
Dywedodd Karen Jones, Uwch Nyrs Babanod cynamserol, fod yr uned yn hynod ddiolchgar am y rhoddion i Elusennau Iechyd Hywel Dda sydd wedi gwneud prynu peiriant ECG yn bosibl.
âRydyn ni’n ymgymryd ag electrocardiogramau yn rheolaidd ar fabanod cynamserol a newydd-anedig sy’n cael eu derbyn i’r uned,â meddai.
âGall y peiriant gyfathrebuân ddi-wifr ac maeân storio canlyniadau ECG yn electronig, gan roi mynediad gwell i ddata ar gyfer timau meddygol. Mae’r darlleniadau cyflym, cywir yn golygu y gellir llunio cynlluniau gofal cynnar. ”
Mae rhoddion i elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn helpu babanod yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Os hoffech roi, gallwch wneud hynny yma:www.justgiving.com/hywelddahealthcharities
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle