Samariaid Cymru’n galw am weithredu ar frys i wella cymorth i bobl sy’n hunan-niweidio

0
278

Mae’r elusen yn rhybuddio bod pobl yng Nghymru’n wynebu rhwystrau i gael cymorth amserol a phriodol ar gyfer ei hunan-niweidio

  • Y llynedd, trafodwyd hunan-niwed mwy na 272,000 o weithiau – neu unwaith bob dwy funud – ar linell gymorth 24 awr y Samariaid. 
  • Ceir oddeutu 5,500 o dderbyniadau i ysbytai oherwydd hunan-niwed yng Nghymru bob blwyddyn. Fodd bynnag, gan nad yw’r rhan fwyaf o bobl sy’n niweidio eu hunain yn troi at wasanaethau iechyd, erys hunan-niwed yn fater sydd yn aml wedi’i guddio a heb ei ddeall yn dda.
  • Dim ond traean (34%) o’r bobl a gymerodd ran yn ein harolwg yng Nghymru oedd wedi ceisio cymorth ar gyfer eu hunan-niwed mwyaf diweddar, o gymharu â mwy na hanner (52%) yr ymatebwyr ar draws y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. 
  • Er bod 9 ym mhob 10 o oedolion yng Nghymru yn cytuno bod hunan-niwed yn broblem ddifrifol ac y dylid gwneud mwy amdano, dywedodd llai na hanner (47%) o’r ymatebwyr y byddent yn gwybod sut i roi cymorth i rywun agos atynt pe bai’n hunan-niweidio.
  • Mae adroddiad yr elusen Y Cymorth Iawn ar yr Adeg Iawn? – Gwella argaeledd ac ansawdd cymorth ar ôl hunan-niwed yng Nghymru, yn pwysleisio’r rhwystrau mae pobl yn eu hwynebu i gael cymorth amserol a phriodol, ac yn galw am weithredu ar fwy o frys i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn.

Heddiw, mae Samariaid Cymru, y brif elusen ym maes cymorth mewn argyfwng ac atal hunanladdiad, wedi cyhoeddi adroddiad newydd sef Y Cymorth Iawn ar yr Adeg Iawn? – Gwella argaeledd ac ansawdd cymorth ar ôl hunan-niwed yng Nghymru, sy’n dwyn ynghyd canfyddiadau pobl â phrofiad byw o hunan-niwed, rhanddeiliaid, darparwyr gwasanaethau a’r cyhoedd i ddeall anghenion cymorth pobl sydd wedi hunan-niweidio a chanfod cyfleoedd i wella ansawdd y cymorth sydd ar gael. 

Mae’r elusen yn galw am i gymorth a therapïau iechyd meddwl fod yn haws i’w cael i bobl sydd wedi hunan-niweidio, er mwyn i’r cymorth hwn fod ar gael fel ymyrraeth gynnar. Canfu’r ymchwil fod pobl sydd wedi hunan-niweidio yng Nghymru’n cael eu cau allan o wasanaethau am nad ydynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer cymorth iechyd meddwl.  Canlyniad hyn yw nad yw pobl yn cael cynnig cymorth yn gynnar, sydd yn ei dro yn achosi iddynt brofi lefelau mwy difrifol o drallod ac ymddygiadau hunan-niweidio. 

“Dwi’n cael brwydr barhaus gyda hunan-niwed. Fodd bynnag, dwi ddim yn gymwys i gael triniaeth oherwydd nad ydw i’n bodloni’r meini prawf. Ddylen nhw ddim gwthio pobl i gyrraedd y lefel honno o afiechyd cyn iddyn nhw gael help – ymagwedd delio ag argyfyngau’n unig yw hyn.” – unigolyn â phrofiad byw o hunan-niwed

Pwysleisiodd yr ymchwil hefyd sut y gall stigma mawr sydd wedi hen ymsefydlu ynghylch hunan-niwed greu rhwystrau i geisio cymorth gan ffrindiau a theulu. Mae’n amlwg bod angen cynyddu canllawiau i gefnogwyr pobl sydd wedi hunan-niweidio er mwyn lleihau stigma ac annog mwy o bobl i siarad yn agored. 

Mewn arolwg o fwy na 900 o oedolion yng Nghymru, er bod y rhan helaethaf ohonynt yn cytuno bod hunan-niwed yn broblem ddifrifol ac eisiau gweld mwy o weithredu i fynd i’r afael ag ef, dywedodd llai na hanner (47%) o’r ymatebwyr y byddent yn gwybod sut i roi cymorth i rywun agos atynt pe bai’n hunan-niweidio. Dangosodd yr un arolwg na fyddai bron un ym mhob tri (31%) o oedolion yn teimlo’n gyfforddus yn siarad â phartner neu aelod agos o’u teulu am hunan-niwed, ac na fyddai bron 2 ym mhob 5 (39%) yn teimlo’n gyfforddus yn siarad â ffrindiau amdano. Dywedodd mwy na dau draean (62%) o’r cyhoedd yng Nghymru na fyddent yn teimlo’n gyfforddus yn siarad â meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol  arall am hunan-niwed. 

Dywedodd Sarah Stone, Cyfarwyddwr Gweithredol Cymru:

“Mae ein hymchwil yn pwysleisio bod pobl yng Nghymru’n wynebu rhwystrau i gael y cymorth iawn ar yr adeg iawn. Yn aml mae’n anodd sicrhau mynediad i ymyriadau amserol gan wasanaethau priodol ac mae trothwyon ar gyfer gofal eilaidd yn uchel. Nid yw pobl yn cael cynnig cymorth ar adeg ddigon cynnar, sydd yn ei dro yn achosi iddynt brofi lefelau mwy difrifol o drallod ac ymddygiadau hunan-niweidio. ”

Soniodd pobl â phrofiad byw o hunan-niwed, darparwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid am yr angen am ymatebion tosturiol ac sy’n ystyriol o drawma i hunan-niwed. Rhaid i’r gofal ganolbwyntio ar yr unigolyn, ac ni ddylai fod y fath beth â drws anghywir. Mae’n rhaid wrth ddealltwriaeth ehangach o’r hyn sy’n gweithio wrth gynorthwyo rhai grwpiau demograffig a chymunedau penodol, gan gynnwys cymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, cymunedau LGBTQ+ a phobl o aelwydydd incwm is yng Nghymru.  

Mae pandemig y coronafeirws yn cael effaith barhaus ar iechyd meddwl a lles meddyliol pobl ledled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Yn ystod misoedd y cyfyngiadau symud, siaradodd galwyr am y ffordd yr oeddent yn teimlo’n fwyfwy unig, pryderus a thrallodus. Er ei bod yn rhy gynnar i wybod beth fydd effaith hirdymor y pandemig ar hunan-niwed, mae’r canfyddiadau hyn yn ei gwneud yn fwy tyngedfennol byth cael y cymorth iawn i bobl ar yr adeg iawn.

Mae ein hadroddiad diweddaraf, sydd wedi cael ei gyhoeddi heddiw, yn cynnig  rhai pwyntiau i’w hystyried ynghylch sut y gallwn sicrhau gwell cymorth i bobl sy’n hunan-niweidio. Mae ein hadroddiad yn gyfraniad at y drafodaeth hon, y mae mawr ei hangen, ac rydym yn gobeithio y bydd yn ysgogi rhagor o feddwl, deall a gweithredu. 

Mae’r ddogfen Y Cymorth Iawn ar yr Adeg Iawn? – Gwella argaeledd ac ansawdd cymorth ar ôl hunan-niwed yng Nghymru, yn edrych ar brofiadau ac anghenion pobl â phrofiad byw o hunan-niwed, ac yn galw am weithredu ar frys i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth iawn  ar yr adeg iawn.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle