Meddygon teulu yn dechrau cyflwyno rhaglen frechu Rhydychen AstraZeneca COVID-19

0
910
Mr Clifford Jones

Mae ein poblogaeth dros 80au yn Hywel Dda wedi dechrau derbyn brechiadau i’w hamddiffyn rhag COVID-19 gan fod y brechlynnau Rhydychen AstraZeneca cyntaf wedi’u dosbarthu i feddygfeydd teulu yng ngorllewin Cymru yr wythnos hon.

. Mrs Margaret Stevens, aged 92, from Llanelli was delighted to be one of the first patients in the community to receive her vaccine as was Bury Port resident Mr Clifford Jones, aged 85.

Roedd Mrs Margaret Stevens, 92 oed, o Lanelli yn falch iawn o fod yn un o’r cleifion cyntaf yn y gymuned i dderbyn ei brechlyn fel yr oedd Mr Clifford Jones un o drigolion Porth Tywyn, 85 oed.

Hyd yn hyn, mae mwy na 10,000 o frechlynnau wedi’u dosbarthu yn ardal Hywel Dda ers mis Rhagfyr 2020 ac o’r wythnos nesaf ymlaen, bydd 14 meddygfa ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn darparu’r brechlyn yn lleol i bobl 80 oed a hŷn.

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar y cyd â chydweithwyr gofal sylfaenol, fel y bydd llawer mwy o feddygfeydd ar draws tair sir Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro erbyn canol mis Ionawr yn galw cleifion i mewn am y brechlyn, yn ogystal â darparu brechiad i fwy o breswylwyr cartrefi gofal ynghyd â cleifion sy’n gaeth i’w cartrefi.

Mae’r bwrdd iechyd hefyd yn trafod gyda chydweithwyr fferylliaeth gymunedol i archwilio’r posibilrwydd o fferyllwyr yn gweinyddu brechiadau ac yn gweithio ar sefydlu mwy o ganolfannau brechu yn y gymuned i gefnogi darparu gofal sylfaenol yn Aberystwyth, Llanelli a Hwlffordd, wrth i ragor o ddosau gael eu darparu. Gwneir cyhoeddiadau pan fydd manylion yn derfynol a bydd y safleoedd yn cael eu cyflwyno’n raddol yn unol â threfniadau logistaidd.

Bydd staff iechyd a gofal hefyd yn parhau i gael eu gwahodd i gael eu brechu yn y canolfannau torfol yng Nghaerfyrddin ac Aberteifi.

Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r sefyllfa yng Nghymru yn ddifrifol iawn ar hyn o bryd. Mae achosion o’r feirws yn uchel iawn ac mae straen newydd, trosglwyddadwy iawn o coronafeirws yn y DU, sy’n cylchredeg ym mhob rhan o Gymru. Er ein bod yn gofyn i’n cymunedau barhau i amddiffyn eu hunain, eu hanwyliaid a’r GIG trwy aros gartref, mae gobaith hefyd ar ffurf y brechlynnau.

“Mae’n anhygoel ein bod ni wedi brechu 10,000 o bobl yn ardal Hywel Dda yn barod. Rwy’n ddiolchgar i’n holl staff a’r partneriaid rydyn ni’n gweithio gyda nhw mewn gofal sylfaenol, cartrefi gofal ac awdurdodau lleol i wneud i hyn ddigwydd.

“Byddem yn gofyn i’n cymunedau gyd-weithio â ni – bydd yn cymryd amser i’w gyflwyno ond rydym yn sicr y byddwn yn parhau i dderbyn mwy o frechlynnau yn ystod yr wythnosau nesaf. Peidiwch â ffonio’ch meddyg teulu neu ysbyty i ddarganfod pryd fydd eich brechlyn, ond byddwch yn dawel eich meddwl y byddant yn eich gwahodd ar yr adeg briodol.

“Ond hefyd paratowch i dderbyn y brechlyn pan gewch gynnig iddo. Bydd yn cynnig amddiffyniad gwych i chi rhag y clefyd sydd wedi effeithio ein bywydau”

Mr Clifford Jones

Ychwanegodd Dr Sion James, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol ar gyfer Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Cymunedol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae hwn yn amser cyffrous i gontractwyr gofal sylfaenol fod yn rhan o raglen frechu hanesyddol, gan weithio ar y cyd â’n cydweithwyr yn y bwrdd iechyd.

“Hoffem sicrhau’r rhai yn y grŵp blaenoriaeth yr ydym yn brechu mewn gofal sylfaenol ar hyn o bryd (80 a throsodd), y bydd eu meddyg teulu yn cysylltu â hwy i drefnu apwyntiad. Peidiwch â chysylltu â’ch meddyg teulu neu fferyllydd.

“Diolch i bawb am eu hamynedd ar yr adeg hon.”

Yn ddealladwy, bydd llawer o gwestiynau am y brechlynnau COVID-19. Ni fyddai’r brechlynnau wedi’u cymeradwyo a’u rhyddhau pe na baent yn ddiogel. Ewch i Gwybodaeth Brechlyn COVID-19 – Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru) i gael mwy o wybodaeth ynghylch cymhwysedd a diogelwch y brechlynnau.

Mae troseddwyr yn defnyddio’r pandemig i sgamio’r cyhoedd – peidiwch â dod yn ddioddefwr. Mae swyddogion y gyfraith, y llywodraeth a phartneriaid yn y sector preifat yn gweithio gyda’i gilydd i annog aelodau’r cyhoedd i fod yn fwy gwyliadwrus yn erbyn twyll, yn enwedig ynglŷn â rhannu eu gwybodaeth ariannol a phersonol, wrth i droseddwyr geisio manteisio ar y pandemig. I ddarganfod mwy, gan gynnwys sut i adrodd trosedd o’r fath, ewch i: Cyngor ynglŷn â thwyll | Heddlu Dyfed-Powys (dyfed-powys.police.uk)


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle