Cyhoeddi cynlluniau diogelwch adeiladau newydd i Gymru

0
309

Mae’r Gweinidog Tai Julie James wedi nodi diwygiadau helaeth a fyddai, pe baent yn cael eu cymeradwyo gan y Senedd, yn golygu bod gan Gymru’r drefn diogelwch adeiladau fwyaf cynhwysfawr yn y DU, ac yn rhoi llais cryfach i breswylwyr ar faterion sy’n effeithio ar eu cartrefi.

Mae’r cynigion yn y Papur Gwyn ar Ddiogelwch Adeiladau yn cwmpasu pob adeilad preswyl aml-feddiannaeth, o dŷ a drowyd yn ddwy fflat, i floc fflatiau uchel iawn.

Mae’r Papur Gwyn yn amlinellu diwygiadau mawr i’r ffordd rydym yn dylunio, adeiladu, rheoli a byw mewn eiddo er mwyn talu sylw i ddiogelwch ar bob cam yn oes adeilad, ac ar yr un pryd yn cynnig trywydd clir o ran atebolrwydd ar gyfer perchnogion a rheolwyr adeiladau, yn ogystal â system reoleiddio gryfach.

Building Safety White Paper – Quick Read Version – English

Mae hefyd yn cynnwys:

  • Trywydd clir o ran atebolrwydd, gan bennu unigolion sydd â’r wybodaeth a’r arbenigedd priodol, a fydd yn gyfreithiol gyfrifol am ddiogelwch ac am leihau’r risg o dân gydol oes yr adeilad;
  • Rhaglen wirio well yn ystod y gwaith adeiladu i gefnogi tystiolaeth o gydymffurfiaeth;
  • Creu dau gategori risg, â gofyniad ar gyfer pob adeilad sy’n 18 metr meu fwy o daldra i gynnwys ‘Llinyn Aur’ o’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r gwaith o’u dylunio, eu hadeiladu ac o’u cynnal a’u cadw yn y tymor hir;
  • Dyletswydd bod adeiladau yn meddu ar y gallu i gyfyngu tân i’r man lle y tarddodd am ddigon o amser i ganiatáu iddo gael ei ddiffodd;
  • Dull cwbl newydd o nodi a lleihau’r risg o dân mewn blociau o fflatiau. Bydd hyn yn haws i landlordiaid ac eraill ei ddeall a’i roi ar waith, ac yn fwy effeithiol o ran lleihau risgiau i breswylwyr;
  • Proses i’w gwneud yn bosibl i breswylwyr godi pryderon ynghylch diogelwch adeiladau;
  • Un broses ar gyfer uwchgyfeirio pryderon at y rheoleiddiwr.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymryd nifer o gamau i wella diogelwch adeiladau. Fis Ionawr diwethaf, yn dilyn newid i reoliadau, gwaharddwyd defnyddio deunyddiau llosgadwy mewn systemau cladin yng Nghymru. Roedd hyn yn berthnasol i bob adeilad preswyl newydd (fflatiau, llety myfyrwyr a chartrefi gofal) ac ysbytai dros 18m o daldra.

Dywedodd Julie James:

“Yn sgil y drasiedi yn Nhŵr Grenfell, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymryd camau i wneud adeiladau’n fwy diogel i breswylwyr.

“Mae wedi bod yn eglur erioed, fodd bynnag, bod angen newidiadau llawer mwy sylfaenol i wella diogelwch adeiladau yn gyffredinol.

“Dyna pam rydym yn cynnig gwelliannau i bob cam yn oes adeiladau amlfeddiannaeth, o’u dylunio, drwy eu adeiladu ac i’w meddiannu, fel bod adeiladau newydd yn ddiogel i bob preswylydd.

“Yn bwysicaf oll, mae’r cynigion hyn wedi’u llunio i rymuso preswylwyr drwy roi llawer mwy o lais iddynt yn y materion sy’n effeithio ar eu cartrefi a thrwy ddarparu llwybrau clir iddynt fynegi pryderon a rhybuddio’r rhai sy’n gyfrifol pan aiff pethau o chwith. Rhaid i’r rhai sy’n berchen ar ein hadeiladau ac sy’n eu rheoli gadw at eu rhwymedigaeth i gywiro pethau.

“Bydd y cynigion hyn, os cânt eu gwneud yn gyfraith yn nhymor nesaf y Senedd, yn creu cyfundrefn newydd, a llawer gwell, sy’n rhoi diogelwch preswylwyr yn gyntaf.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle

Previous articleNew building safety plans for Wales announced
Next articleLetter to The Editor
Emyr Evans
Emyr likes running when fit,and completed the London Marathon in 2017. He has also completed an Ultra Marathon. He's a keen music fan who likes to follow the weekly music charts and is a presenter on hospital radio at the prince Phillip Hospital Radio BGM. Emyr writes his own articles and also helps the team to upload press releases along with uploading other authors work that do not have their own profile on The West Wales Chronicle. All Emyr's thoughts are his own.