Plaid Cymru yn galw am y tryloywder mwyaf posibl i feithrin ymddiriedaeth, a chwestiynu’r system apwyntiadau mewn llythyr agored at y Gweinidog Iechyd
Mewn llythyr agored at y Gweinidog Iechyd, mae Rhun ap Iorwerth AS, llefarydd iechyd Plaid Cymru, wedi galw am fwy o eglurder ar y rhaglen frechu, er mwyn meithrin ymddiriedaeth y cyhoedd.
Er bod defnyddio’r brechlyn yn cynnig gobaith gwirioneddol, mae Mr ap Iorwerth yn codi “pryderon gwirioneddol” ynghylch cyflymder, tryloywder a chyfathrebu’r rhaglen, ac yn dweud bod y cyhoedd “eisiau gwybod pryd y gallen nhw ddisgwyl y brechlyn.”
Mae Mr ap Iorwerth yn galw am ddangosfwrdd o wybodaeth a fyddai’n caniatáu i’r cyhoedd weld cynnydd drostynt eu hunain, gan gynnwys nifer y dosau a ddarperir ac a weinyddir gan y bwrdd iechyd a fesul grŵp blaenoriaeth. Dywedodd y byddai’n “mynd yn bell” wrth helpu i adfer ymddiriedaeth y cyhoedd.
Mae Mr ap Iorwerth hefyd yn gofyn am eglurder ynghylch a yw System Imiwneiddio Cymru yn gallu cyflawni’r tasgau y bwriadwyd iddi eu gwneud ar hyn o bryd, gan gynnwys creu apwyntiadau, anfon llythyrau ac amserlennu ail ddos yn awtomatig.
Gan ddefnyddio enghreifftiau o arfer da rhyngwladol, mae Mr ap Iorwerth yn gofyn a fyddai’r Gweinidog Iechyd yn ystyried mesurau fel:
· Canolfannau brechu ar agor 7 diwrnod yr wythnos
· Argaeledd eang o ganolfannau brechu ar ffurf gyrru drwodd
· Lleihau gwastraff drwy ganiatáu i frechlynnau parod gael eu rhoi ar sail ‘y cyntaf i’r felin’ ar ddiwedd y dydd.
Dywedodd Gweinidog Iechyd Cysgodol, Rhun ap Iorwerth AS,
“Mae pryderon gwirioneddol am y rhaglen frechu, yn enwedig o ran cyflymder, tryloywder a chyfathrebu yn ystod y camau cychwynnol hyn. Mae pobl am wybod pryd y gallent ddisgwyl y brechlyn.
“Bydd gosod targedau yng nghynllun brechu Llywodraeth Cymru, a chynnwys dangosfwrdd o wybodaeth sy’n ateb cwestiynau ynghylch nifer y dosau fesul bwrdd iechyd a grŵp blaenoriaeth, yn mynd ymhell o ran helpu i feithrin ymddiriedaeth y cyhoedd, gan y byddant yn gallu olrhain cynnydd drostynt eu hunain.
“Mae gennym gyfnod byr o wythnosau cyn i’r difrod o amodau caeth, yn enwedig cau ysgolion, ddod yn fwy arwyddocaol fyth. Ar hyn o bryd mae gennym feirws sy’n heintio mwy o bobl bob wythnos nag sy’n cael y brechlyn. Felly, mae ehangu cyflymder a graddfa’r brechiadau yn hanfodol, yn ogystal ag adfer hyder y cyhoedd bod gan lywodraethau gynllun i ennill y frwydr hon yn erbyn y feirws.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle