Mae’n bleser gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyhoeddi ailagor Ysbyty Cymunedol Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin ar unwaith, gyda chleifion yn cael eu trosglwyddo i’r ysbyty yr wythnos hon.
Gorfodwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gau’r ysbyty ychydig dros fis yn ôl oherwydd cyfyngiadau cysylltiedig â COVID-19 ar y gweithlu.
Ers cau, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi gweithio’n galed i wneud gwaith adfer sylweddol yn yr ysbyty i wella’r amgylchedd, gan gynnwys atgyweiriadau ac adnewyddiadau i waliau a lloriau. Cafodd y safle ei lanhau’n fanwl hefyd, sydd wedi caniatáu i’r ysbyty gael ei ailagor fel cyfleuster heb COVID-19 (Safle gwyrdd).
Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymuned a Gofal Hirdymor Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Y bwriad o’r cychwyn oedd cau Ysbyty Cymunedol Llanymddyfri dros dro, felly rwy’n falch iawn o allu cyhoeddi ei ailagor. Mae’n gyfleuster pwysig sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr gan bobl yn yr ardal honno ar dalgylch.
“Er ein bod wedi cwblhau llawer o waith adfer yn llwyddiannus, mae angen gwneud rhai gwaith hanfodol pellach, a dyna pam mae’r ysbyty wedi ailagor i ddechrau gydag wyth gwely, gyda thri gwely arall i fod i agor ddechrau mis Chwefror.
“Yn flaenorol, roedd gan yr ysbyty le i 16 o gleifion, ond oherwydd canllawiau pellhau cymdeithasol, bydd yr ysbyty cymunedol yn gweithredu yn y pen draw ar gapasiti o 14 gwely, ond bydd hyn yn dibynnu ar wneud gwaith pellach yn ddiweddarach eleni.
“Hoffwn ddiolch i’r gymuned yn Llanymddyfri a’r dalgylch am eu dealltwriaeth a chefnogaeth barhaus. Mae’r rhain yn parhau i fod yn amseroedd heriol iawn, ond rwyf am sicrhau’r cyhoedd ein bod yn gweithio’n galed i ddarparu gofal diogel a gorau posibl i’n holl gleifion.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle