Mae dros 60 o gartrefi yng Nghastell-nedd Port Talbot bellach wedi derbyn system gwres canolog diolch i’r Gronfa Cartrefi Cynnes.
Mae’r gronfa’n helpu perchnogion cartrefi nad oes ganddynt system gwres canolog nwy olew neu nwy yn barod, i leihau costau eu biliau ynni trwy gynhesu eu cartrefi’n fwy effeithlon. Gall perchnogion tai sy’n gymwys ar gyfer y Gronfa dderbyn system gwres canolog nwy (boeler, rheiddiaduron, pibellau) am ddim, yn ogystal ag amrywiaeth o fesurau arbed ynni fel inswleiddio llofftydd, mesurau atal drafftiau a bylbiau golau ynni isel.
Ers ei lansio, mae’r cynllun a reolir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ariannu gwerth dros £450,000 o osodiadau a mesurau arbed ynni ar draws y fwrdeistref sirol.
Nid oes angen i berchnogion cartrefi dalu unrhyw beth tuag at gostau’r system gwres canolog ond nid oes modd defnyddio’r gronfa tuag at gostau cysylltiad nwy i’ch eiddo. Bydd rhai aelwydydd yn gymwys ar gyfer cymorth ariannol tuag at gysylltiad nwy trwy Gynllun Ymestyn y Rhwydwaith Tlodi Tanwydd. Bydd y tîm yn gallu’ch arwain trwy’r broses.
I fod yn gymwys ar gyfer y gronfa, mae’n rhaid i’r perchnogion cartrefi fodloni’r meini prawf canlynol:
• Byw yng Nghastell-nedd Port Talbot:
1. Cael eich ystyried yn aelwyd incwm isel
2. Gwario dros 10% o incwm eich aelwyd ar ynni
3. Neu’n byw mewn ardal incwm isel (gwiriwch gyda’r tîm i gadarnhau a ydych chi’n byw mewn ardal incwm isel)
4. Neu’n derbyn rhai budd-daliadau
• Nid oes gennych system gwres canolog olew/nwy neu LPG (boeler a rheiddiaduron) Bydd eiddo sydd â system gwres canolog tanwydd solet yn gymwys i wneud cais am y grant hwn.
• Rhaid eich bod yn berchen ar eich eiddo eich hun neu’n rhentu’n breifat (bydd angen i landlordiaid dalu cyfraniad o 25% tuag at gost y gwaith)
Meddai’r Cynghorydd Peter Richards, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ac Iechyd,
“Credwn fod bod pawb yn haeddu byw mewn cartref cynnes ac rydym yn gwbl ymrwymedig i sicrhau bod pobl yn gallu fforddio’r ynni y mae ei angen arnynt.
“Mae llawer o’r perchnogion cartrefi rydym wedi’u helpu wedi derbyn systemau gwres canolog ynni effeithlon newydd yn lle gwresogyddion trydan neu foeleri glo, gan arbed miloedd o bunnoedd y flwyddyn iddynt ar gostau gwres.”
“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n meddwl y gallem eu helpu i gysylltu â ni – ac annog preswylwyr i feddwl am unrhyw ffrindiau neu aelodau o’r teulu a allai elwa o’r Gronfa Cartrefi Cynnes.”
Ariennir y cynllun gan y Gronfa Cartrefi Cynnes sy’n werth £150 miliwn, a sefydlwyd gan y Grid Cenedlaethol. Caiff ei weinyddu gan Gwmni Buddsoddiad Cymunedol, Affordable Warmth Solutions, i gefnogi awdurdodau lleol i fynd i’r afael â rhai o’r materion sy’n effeithio ar aelwydydd sy’n dlawd o ran tanwydd.
Meddai Jeremy Nesbitt, Rheolwr-gyfarwyddwr Affordable Warmth Solutions:
“Rydym yn gyffrous am y buddsoddiad hwn gan y Grid Cenedlaethol ac rydym wrth ein boddau i gefnogi Cronfa Cartrefi Cynnes Castell-nedd Port Talbot er mwyn ariannu’r cynllun i fynd i’r afael â thlodi tanwydd. Mae datrys problemau sy’n gysylltiedig â thlodi tanwydd yn parhau i herio llawer o’n rhanddeiliaid ac mae’r adborth rydym eisoes wedi’i dderbyn yn dystiolaeth o sut bydd y Gronfa Cartrefi Cynnes yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i filoedd o gartrefi ledled Prydain Fawr.”
I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i: https://www.npt.gov.uk/cronfacartreficynnes . Os nad ydych yn siŵr a ydych yn bodloni’r meini prawf neu beidio, cysylltwch â’r Tîm Adnewyddu Tai trwy ffonio 01639 686504 neu e-bostio renewalarea@npt.gov.uk .
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle