Cyfle i grwpiau amrywiol ddylanwadu ar benderfyniadau ym maes plismona

0
571

A allech chi gynrychioli grŵp amrywiol o bobl a helpu i ddylanwadu ar benderfyniadau a wneir ym maes plismona?

Os felly, hoffai Grŵp Ymgynghorol Annibynnol (GYA) Heddlu Dyfed-Powys glywed gennych.

Mae’r GYA yn cynnwys pobl o bob rhan o ardal Dyfed-Powys ac mae’n rhoi cyfle i ymgysylltu, ymgynghori a thrafod effaith plismona ar gymunedau yn ardal yr heddlu.

Mae’n gweithredu fel cyfaill beirniadol i’r heddlu ac i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (SCHTh), ac mae’n sicrhau ein bod yn osgoi rhoi unrhyw ran o’r gymuned dan anfantais oherwydd diffyg dealltwriaeth, anwybodaeth neu gred anghywir.

Wrth i ni ddechrau’r flwyddyn newydd, mae’r grŵp yn chwilio am aelodau newydd i ychwanegu at y fforwm – yn enwedig pobl sy’n gallu cynrychioli grwpiau lleiafrifol yn ein cymunedau.

Mae’r is-gadeirydd, Derek Turner, wedi bod yn aelod o’r GYA ers naw mlynedd, gan ymuno ar ôl gyrfa fel gweithiwr datblygu ym maes iechyd meddwl. Meddai: “Dros y blynyddoedd y bûm yn aelod, mae parodrwydd Heddlu Dyfed-Powys i ddysgu a pha mor agored yw’r heddlu i awgrymiadau a syniadau wedi creu cryn argraff arnaf.

“Mae’r GYA yn dwyn ynghyd bobl sydd â safbwyntiau hollol wahanol ac sydd o wahanol gefndiroedd. Mae wedi bod yn dda dysgu a gweithio gyda’r ymdeimlad hwnnw o amrywiaeth, a thrwy gynrychiolaeth gref – a pharodrwydd yr heddlu i ystyried ein syniadau – rydym wedi gallu gwneud newidiadau cadarnhaol.

“Yr hyn sydd ei angen arnom nawr yw cynnydd yn yr aelodaeth – yn enwedig i gynrychioli grwpiau lleiafrifol yn ein cymunedau sydd â phrofiadau byw y gallwn ddysgu oddi wrthynt a’u defnyddio.”

Mae’r GYA yn cynnwys croesgynrychiolaeth o gymunedau buddiant amrywiol yr ardal, o ran oedran, rhywedd, ailbennu rhywedd, anabledd, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, a siaradwyr Cymraeg.

Mae’r grŵp yn annog ceisiadau gan bobl sydd â phrofiadau byw yn y meysydd hyn, ond mae hefyd yn cydnabod arbenigedd pobl sy’n gallu gweithredu fel eiriolwyr.

“Am gyfnod roedd gennym aelod a oedd yn gweithio’n agos iawn gyda’r gymuned deithiol, ac roedd yn gweithredu fel eiriolwr cryf iawn drostynt,” meddai Mr Turner. “Er nad oedd yn dod o’r gymuned ei hun, gwnaeth waith gwych o agor ein llygaid.

“Weithiau gall eiriolwr fod yn fwy pwerus gan fod ganddo’r arbenigedd hwnnw, a byddem wrth ein bodd yn clywed gan unrhyw un sy’n credu y gallent weithredu fel eiriolwr dros grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd.”

I aelodau fel Paul Saunders, defnyddiwr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) byddar iawn a ymunodd â’r grŵp naw mlynedd yn ôl mae’r diolch am y newidiadau y mae’r GYA wedi’u gwneud hyd yn hyn.

Meddai: “Cefais fy magu fel rhan o gymuned a diwylliant Byddar cryf, ac mae gen i brofiad uniongyrchol o’r rhwystrau niferus sy’n wynebu pobl Fyddar mewn cymdeithas ac mewn perthynas â’r heddlu.

“Mae angen i’r heddlu fod yn ymwybodol o bwysigrwydd dulliau cyfathrebu priodol a chlir yn ogystal â’r angen i ddarparu mynediad llawn i bobl Fyddar.

“Ymunais er mwyn codi ymwybyddiaeth o anghenion y gymuned Fyddar, yn enwedig y rhai sydd â BSL fel eu hiaith gyntaf, i wella dulliau cyfathrebu, hygyrchedd a dealltwriaeth o’r materion a’r rhwystrau y mae pobl fyddar yn eu hwynebu.”

Wrth annog pobl i ystyried ymuno â’r GYA, dywedodd Mr Saunders ei fod wedi datblygu parch a dealltwriaeth o ddiwylliannau ac anghenion aelodau eraill.

Ychwanegodd: “Trwy ymuno, gallwch helpu’r heddlu i wella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r rhwystrau mynediad a chyfathrebu ar gyfer y gwahanol gymunedau y mae’n ymdrin â hwy.

“Mae hefyd yn brofiad dysgu da i’r aelodau eu hunain, drwy ddysgu am faterion a diwylliannau ei gilydd.”

I gael gwybod mwy am y grŵp, a sut i wneud cais, ewch i: https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/heddluoedd/heddlu-dyfed-powys/ardaloedd/amdanom-ni/amdanom-ni/grwp-ymgynghorol-annibynnol/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle