Wrth ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw (15 Ionawr) ar gryfhau deddfwriaeth i sicrhau bod gweithleoedd a siopau yn fwy diogel dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:
“Rydym yn croesawu’n gryf y mesurau newydd hyn i amddiffyn gweithwyr a’r cyhoedd ymhellach rhag y coronafeirws. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar bryderon gweithwyr ac wedi gweithredu’n gyflym i fynd i’r afael â nhw. Gwyddom fod llai na chwarter y cyflogwyr yng Nghymru wedi bod yn dilyn y canllawiau ar asesiadau risg yn llawn, felly mae cryfhau’r gofynion sy’n ymwneud â hyn yn gam pwysig iawn.
“Ta waeth ble mae rhywun yn gweithio na beth maen nhw’n ei wneud, ni ddylen nhw fod mewn mwy o berygl o ddal coronafeirws yn y gwaith os oedd mesurau y dylai eu cyflogwr fod wedi’u rhoi ar waith i’w hamddiffyn. Mae hyn yn golygu cynnal asesiadau risg, eu rhannu â staff, gweithredu’r newidiadau angenrheidiol a’u hadolygu’n rheolaidd, i gyd mewn ymgynghoriad â’r gweithlu a’u hundebau. Rydym yn hyderus y bydd y mesurau hyn yn gwireddu hyn i filoedd yn fwy o weithwyr ledled Cymru. Edrychwn ymlaen yn awr at weithio gyda’r llywodraeth a chyflogwyr ar fanylion y rheoliadau newydd i wneud ein gweithleoedd yn fwy diogel.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle