Lansiwyd llinell gymorth newydd i helpu preswylwyr Castell-nedd Port Talbot sydd wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth i gyflwyno ceisiadau ar gyfer Credyd Pensiwn a budd-daliadau eraill.
Mae Llinell Gymorth Credyd Pensiwn Uned Hawliau Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cydweithio â sefydliadau partner eraill i helpu pobl i ddarganfod pa fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt a sut gallant gyflwyno cais amdanynt.
Taliad ychwanegol a wneir i bobl sydd wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth ag sydd ag incwm isel yw Credyd Pensiwn. Gallwch fod yn gymwys ar gyfer Credyd Pensiwn hyd yn oed os ydych yn berchen ar eich cartref eich hunan, ac mae gennych gynilion sylweddol neu bensiwn arall.
Gall ymgynghorwyr gyfeirio pobl i fathau eraill o gefnogaeth y mae ganddynt hawl iddynt, er enghraifft:
costau’r GIG (e.e. deintyddol, gwasanaethau optegydd a theithio i’r ysbyty)
Biliau gwres
Rhent
Trwydded deledu am ddim
Treth y Cyngor
I siarad ag ymgynghorydd, gall preswylwyr ffonio’r llinell gymorth am ddim ar 0800 112 4763 o ddydd Llun i ddydd Iau rhwng 10am a 3pm.
Meddai’r Cynghorydd Peter Richards, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ac Iechyd,
“Mae llawer o bobl sydd wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth yn colli cyfle i dderbyn budd-daliadau a allai helpu gyda chostau byw dyddiol.”
“Rydym yn annog unrhyw un sy’n meddwl ei fod o bosib yn gymwys i ffonio’r llinell gymorth i ddarganfod a yw’n gallu hawlio Credyd Pensiwn neu unrhyw fudd-daliadau eraill a allai gynyddu ei incwm.”
Cyflwynir y llinell gymorth ar y cyd gan Uned Hawliau Lles Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Age Cymru Gorllewin Morgannwg, Gofal a Thrwsio Bae’r Gorllewin, Canolfan Gofalwyr Abertawe, Cyngor ar Bopeth Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot a Thîm Hawliau Lles Cyngor Abertawe.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle