Mellt ac Eädyth i gynnal gigs wedi’u ffrydio ‘Yn Fyw o’r Ffwrnes’ yn y flwyddyn newydd

0
373
Fujifilm Pro 400H 120

Mae grŵp a chantores sy’n dechrau ennill enwogrwydd ym myd cerddoriaeth Gymraeg wedi cadarnhau y byddant yn perfformio gigs yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli a fydd yn cael eu ffrydio i gynulleidfaoedd ar-lein yn ystod yr wythnosau nesaf.

Daw hyn ar ôl i’r theatr yn Sir Gaerfyrddin gynnal perfformiadau gan ddau fand Cymraeg poblogaidd arall ym mis Rhagfyr, bu band roc Alffa ar y llwyfan a hefyd y band ifanc Gwilym a hynny ar gyfer sioeau ar-lein a gafodd eu ffrydio ar YouTube a Facebook. Mae’r gigs wedi bod yn boblogaidd gyda chynulleidfaoedd gartref sy’n gweld eisiau’r profiad o fynd i weld cerddoriaeth fyw, yn wir mae’r sioeau wedi cael eu gwylio 6,000 o weithiau o fewn 48 awr i gael eu postio.

MELLT FFWRNES on-stage

Yn gobeithio am yr un ymateb pan fydd eu sioeau ar-lein yn cael eu darlledu yw’r pync-rocwyr, Mellt a’r artist, Eädyth gyda’i sain electronig a lleddf.

Y band Mellt, sy’n wreiddiol o Aberystwyth, fydd y cyntaf i berfformio fel rhan o’r gyfres o sioeau digidol ‘Yn Fyw o’r Ffwrnes’ eleni, gyda’r gig yn cael ei ffrydio ddydd Gwener 22 Ionawr, 8pm.

MELLT FFWRNES canu-

Bydd y seren newydd o Ynysowen, Eädyth, sy’n prysur ddod yn enw cyfarwydd i wrandawyr BBC Radio Cymru a Radio Wales gyda’i sain electronig a lleddf nodedig, yn ffrydio ei sioe ddigidol o’r Ffwrnes i nodi Dydd Miwsig Cymru, ddydd Gwener 5 Chwefror, 8pm.

Eadyth

Wrth siarad am y profiad o recordio ei gig wedi’i ffrydio, dywedodd Eädyth: Cefais amser gwych yn Ffwrnes yn recordio fy set, roedd y tîm a’r cyfleusterau yn anhygoel ac roedd yn gymaint o ‘chill vibes’. Roedd yn braf iawn cael fy gig cyntaf yn ôl yma ar ôl y flwyddyn anodd rydyn ni wedi’i chael ac roedd mynd yn ôl ar y llwyfan eto a pherfformio yn gymaint o rush. Methu aros i chwarae yma eto!

Mae’r ddwy gig yn rhad ac am ddim i’w gwylio a byddant yn cael eu ffrydio ar sianeli Facebook, AM a YouTube y theatr. Cofrestrwch am eich tocyn rhad ac am ddim yn www.theatrausirgar.co.uk a byddwch yn cael neges e-bost yn cynnwys dolen i wylio’r sioe cyn iddi fynd yn fyw.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle