Dweud eich dweud ynghylch cyllideb y cyngor

0
516

Dweud eich dweud ynghylch cyllideb y cyngor

https://vimeo.com/502142542

Mae pobl yn cael eu hannog i gymryd rhan ym mhroses pennu cyllideb flynyddol Cyngor Sir Caerfyrddin.

Mae’r cyngor yn gwahodd trigolion lleol, busnesau, sefydliadau cymunedol a gwirfoddol i ddweud eu dweud ynghylch ei gyllideb ddrafft fel y gall cynghorwyr ystyried adborth y cyhoedd cyn gwneud penderfyniad terfynol ym mis Mawrth.

Mae gan y cyngor gyfrifoldeb cyfreithiol i bennu cyllideb gytbwys bob blwyddyn, gan sicrhau bod incwm o ffynonellau fel y dreth gyngor, refeniw o wasanaethau y telir amdanynt a grantiau yn ddigon i dalu am ei wariant.

Gan fod Covid-19 wedi cael effaith sylweddol ar wasanaethau, eleni mae’r cynghorwyr yn wynebu’r pwysau ychwanegol o gyllido’r costau ychwanegol a ysgwyddir a sicrhau y gellir talu am argyfyngau yn y dyfodol.

Teimlir pwysau’n arbennig ar draws gwasanaethau gofal cymdeithasol oherwydd y pandemig, ac ar draws adran yr amgylchedd sy’n ymwneud â chludiant i’r ysgol, amddiffynfeydd rhag llifogydd ac amddiffynfeydd arfordirol, a gwell adnoddau i fynd i’r afael â glanhau a thipio anghyfreithlon mewn ardaloedd wedi’u targedu.

Nid oes unrhyw gynigion ynghylch arbedion newydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer ymgynghoriad eleni, ond mae Bwrdd Gweithredol y cyngor wedi ailadrodd ei ymrwymiad i gyflawni’r arbedion dros dair blynedd y cytunwyd arnynt yng nghyllideb 2020.

Dweud eich dweud  https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/cyngor-a-democratiaeth/ymgynghori-a-pherfformiad/ymgynghoriadau-actif/ymgynghori-ynghylch-y-gyllideb-20212024/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle