Pridd o Iwerddon yn cynnig gobaith yn y frwydr yn erbyn ymwrthedd i wrthfiotigau

0
362
Lane in Torr Head area of northern coast of Northern Ireland.Try these other portfolios:

Mae’r gwyddonwyr a dynnodd sylw at nodweddion trechu heintiau bacteria yn y pridd yng Ngogledd Iwerddon wedi gwneud darganfyddiad cyffrous arall yn yr ymdrech i ddod o hyd i wrthfiotigau newydd. 

Mae aelodau’r GrĆ”p Meddyginiaethau Traddodiadol, sef cydweithrediad rhyngwladol rhwng gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe, Brasil a Gogledd Iwerddon, wedi darganfod mwy o rywogaethau sy’n cynhyrchu gwrthfiotigau ac maent yn credu eu bod wedi nodi mathau newydd o wrthfiotigau a allai achub bywydau o bosib. 

Gallai archfygiau sy’n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau ladd hyd at 1.3 miliwn o bobl yn Ewrop erbyn 2050 – yn ĂŽl Sefydliad Iechyd y Byd, dyma “un o’r bygythiadau mwyaf i iechyd, diogelwch bwyd a datblygu byd-eang heddiw”. 

Mae’r ymdrech i ddod o hyd i wrthfiotigau newydd i drechu ymwrthedd amryfal wedi ysgogi ymchwilwyr i archwilio ffynonellau newydd, gan gynnwys meddyginiaethau gwerin, gan ganolbwyntio ar amgylcheddau lle ceir cynhyrchwyr gwrthfiotigau adnabyddus fel streptomysesau.  

Lane in Torr Head area of northern coast of Northern Ireland.Try these other portfolios:

Gwnaeth y GrĆ”p Meddyginiaethau Traddodiadol ddarganfod bod y pridd a ddefnyddid mewn meddyginiaethau gwerin hynafol yn sgarpdiroedd Gorllewin Fermanagh yn cynnwys sawl rhywogaeth o’r organebau hyn sy’n cynhyrchu gwrthfiotigau. Mae’r ardal hon yn cynnwys ogofau, corsydd a glaswelltiroedd alcalĂŻaidd sy’n llawn gweddillion safleoedd byw neolithig. 

Mae un o’r tĂźm ymchwil, Dr Gerry Quinn, a oedd yn arfer byw yn Boho yn Sir Fermanagh, wedi bod yn ymwybodol o draddodiadau iachĂĄu’r ardal ers blynyddoedd lawer. Sawl blwyddyn yn ĂŽl, drwy ddadansoddi’r tir yno, gwnaeth aelodau’r tĂźm ddarganfod hil newydd o facteria a oedd yn effeithiol yn erbyn pedwar o’r chwe arch-fyg mawr a geir mewn ysbytai sy’n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau, gan gynnwys MRSA. 

Ers hynny, mae eu gwaith ymchwil wedi parhau ond, oherwydd teimladau crefyddol pobl leol a natur gyfyng y safle gwreiddiol, gwnaeth y grƔp ddechrau chwilio mewn rhan arall o sgarpdiroedd Gorllewin Fermanagh a oedd wedi cadw natur alcalïaidd hanfodol y glaswelltiroedd yn ogystal ù chysylltiad ù meddyginiaethau gwerin traddodiadol. 

Meddai Dr Paul Facey, un o’r prif ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe: “Gan fod meddyginiaethau traddodiadol yn rhan o lawer o chwedlau gwerin lleol, roeddem yn credu ei bod hi’n ddigon posib y gallem ddod o hyd i organebau sy’n cynhyrchu gwrthfiotigau cryf mewn lleoliadau eraill yn y bryniau calch hyn.” 

Gwelodd aelodau’r grĆ”p fod eu darganfyddiad diweddaraf yn gallu dangos amrywiaeth ehangach byth o weithgarwch gwrthficrobaidd na’u darganfyddiad blaenorol. 

Mae canlyniadau’r astudiaeth hon bellach wedi cael eu cyhoeddi ar lwyfan MDPI Applied Microbiology ac mae’r dilyniant DNA yn cael ei gadw yng nghasgliad cenedlaethol America. 

Mae profion gwrthfiotig gan Dr Quinn, Simms Adu, o Brifysgol Ulster, a Nada Alharbi, o Brifysgol Abertawe, yn datgelu bod Streptomyces sp. CJ13 yn atal twf organebau ag ymwrthedd amryfal megis: 

  • Pseudomonas aeruginosa gram-negyddol, pathogen bachog cyffredin sy’n gysylltiedig Ăą heintiau cronig yr ysgyfaint mewn cleifion sy’n dioddef o ffibrosis systig; 
  • MRSA, pathogen bachog cyffredin sydd yn aml yn gallu gwrthsefyll llawer o wrthfiotigau; 
  • Bacteria anaerobig, a geir fel arfer mewn clwyfau dwfn ac sy’n achosi heintiau difrifol; 
  • Candida, rhywogaeth o furum a ddiystyrir yn aml mewn heintiau bacteriol cymysg. 

Nid yw’r grĆ”p wedi nodi’r cyfansoddion cemegol sy’n gyfrifol am y gweithgarwch gwrthfiotig eto, ond mae gwaith dadansoddi cychwynnol yn awgrymu bod tebygrwydd genetig i enynnau hysbys eraill sy’n cynhyrchu gwrthfiotigau. 

Er nad yw’r genynnau gwrthfiotig a geir mewn Streptomyces sp. CJ13 yn union yr un peth Ăą phatrymlun sylweddau gwrthficrobaidd, mae’n bosib bod y rhain yn fathau newydd o wrthfiotigau ac mae hynny’n destun diddordeb. 

O ystyried cyfraniadau sylweddol streptomysesau at feysydd therapĂŻau gwrthfirol a chanser, ychwanegodd aelod arall o’r tĂźm, Hamid Bakshi: “Rydym yn hyderus y gallai ein darganfyddiad diweddaraf arwain at lawer o ddarganfyddiadau diddorol eraill.”

TĂźm ymchwil/awduron: Gerry Quinn, Alyaa Abdelhameed, Nada Alharbi, Diego Cobice, Simms Adu, Martin Swain, Helena Carla Castro, Paul Facey, Hamid Bakshi, Murtaza Tambuwala ac Ibrahim Banat.

Swansea University


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle