Cyngor Tref Caerfyrddin – Llifogydd

0
484
Y Maer yn galw am onestrwydd amddiffyn rhag llifogydd
Wedi i eiddo ar Gei Caerfyrddin ddioddef llifogydd am yr ail waith mewn blwyddyn, mae Maer y dref yn galw am ddatganiad brys am gynlluniau amddiffyn rhag llifogydd posib.
Dywedodd y Cyng. Gareth John “rhaid i CNC (Cyfoeth Naturiol Cymru), sydd yn gyfrifol am reoli llif afonydd, ddatgan yn onest os yw cynllun yn ymarferol neu beidio”
“Cyfrifoldeb CNC (Cyfoeth Naturiol Cymru) yw rheoli llifogydd afonydd. Mae’n amlwg bod y Towy yn brif afon ac yn ddychrynllyd mae’r afon a adnabyddir yn afon sy’n gorlifo unwaith pob can mlynedd nawr i weld yn ddigwyddiad cyson.”
“Os felly, mae angen i ni gael gwybod pa gynlluniau, os o gwbl, sydd gan yr asiantaeth hon o Lywodraeth Cymru ar gyfer Cei Caerfyrddin. Gall busnesau ddim parhau i ddioddef yr ansicrwydd presennol gan fod eu hadeiladau yn gorlifo yn gyson heb ddim arwydd o obaith yn ymddangos yw datrys. “
“Os, am ba bynnag rheswm, nad yw wal amddiffyn rhag llifogydd confensiynol yn ymarferol, yna dylem gael gwybod, fel y gellir ystyried mesurau posib eraill – fel gosod amddiffynfeydd dros dro yn dilyn rhybuddion llifogydd”.

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle