Rhybudd gan yr heddlu ynghylch sgamiau brechlyn Covid

0
385

Mae twyllwyr creulon yn cynnig brechlynnau Covid ffug er mwyn ceisio twyllo pobl i gael gafael ar eu harian ac elwa ar bandemig y mae miloedd o bobl yn Ne Cymru wedi marw ohono.

Dyna’r rhybudd y mae ditectifs wedi’i roi, ac maent hefyd yn annog pobl i fod yn wyliadwrus a rhybuddio eraill ynghylch sgamiau o’r fath.

Mae rhybuddion wedi’u cyflwyno dros yr wythnosau diwethaf ynghylch twyllwyr yn cynnig brechlyn Covid ffug pe bai’r dioddefwr yn talu ffi, ac yn ymwneud â negeseuon testun twyllodrus sy’n cael eu hanfon er mwyn ceisio annog pobl i rannu eu manylion personol neu ariannol.

Mewn rhai achosion yn y DU, mae twyllwyr diegwyddor – sy’n esgus eu bod yn gweithio i’r GIG neu fferyllfa leol – yn galw heibio cartrefi dioddefwyr yn ddirybudd er mwyn cynnig rhoi’r brechlyn iddynt yn gyfnewid am daliad arian parod. Gallant hefyd ffonio yn cynnig y brechlyn am ffi, neu ofyn am fanylion banc.

Mewn achosion eraill, efallai y gofynnir i bobl bwyso rhif ar eu bysellbad neu anfon neges destun i gadarnhau eu bod am dderbyn y brechlyn a gallai hyn naill ai ychwanegu at gost bil ffôn y dioddefwr neu ddatgelu gwybodaeth bersonol.

Mae gwefannau ffug hefyd wedi cael eu creu sy’n cynnwys ffurflenni archeb ar gyfer brechlyn y GIG ac sy’n ymddangos fel rhai go iawn, a gallant ofyn am fanylion banc.

Fodd bynnag, bydd brechlyn Covid yn cael ei gynnig am ddim bob amser ac ni fydd gofyn i chi rannu eich manylion banc, dogfennau personol na chyfrineiriau ar unrhyw adeg.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Nick Bellamy o Uned Troseddau Economaidd Heddlu De Cymru:

“Mae’r troseddwyr hyn yn ddyfeisgar ac yn ddiegwyddor a gallant ymddangos yn argyhoeddiadol iawn, ac maent yn dewis manteisio ar bandemig byd-eang i geisio llenwi eu pocedi eu hunain.

“Bydd brechlyn Covid bob amser yn cael ei gynnig gan y GIG am ddim ac ni fydd angen i chi ddarparu manylion banc na manylion ariannol, cyfrineiriau na rhifau PIN ar unrhyw adeg.

“Gall negeseuon neu alwadau ffôn ffug sy’n honni eu bod gan y GIG neu’r llywodraeth ofyn i chi ddarparu gwybodaeth bersonol neu glicio ar ddolen, neu gynnig grant gan y llywodraeth yn ymwneud â Covid i chi. Unwaith eto, sgamiau yw’r rhain.”

Caiff y cyhoedd ei atgoffa na fydd y GIG byth yn gwneud y canlynol:

·         Gofyn am daliadau, gan fod y brechlyn am ddim

·         Gofyn am eich manylion banc

·         Cyrraedd eich cartref yn ddirybudd i roi’r brechlyn

·         Gofyn i chi brofi eich manylion adnabod drwy anfon copïau o’ch dogfennau personol (e.e. pasbort)

Mae’r heddlu hefyd yn gofyn i bobl godi ymwybyddiaeth o’r sgamiau hyn gydag anwyliaid, gan gynnwys yr unigolion na allant weld y cyngor hwn ar-lein o bosibl.

Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Bellamy:

“Mae pobl wedi bod yn dod at ei gilydd drwy gydol y pandemig er mwyn helpu eu cymunedau a chymryd y camau priodol i gadw ei gilydd yn ddiogel ac amddiffyn ein GIG, ac mae brechlyn y coronafeirws yn rhoi rhywfaint o obaith i ni gyd.

“Er y bydd lleiafrif bach yn ceisio defnyddio’r sefyllfa i sgamio eraill o bosibl, gall pob un ohonom ofalu am ein hanwyliaid a rhannu’r cyngor hwn â nhw er mwyn sicrhau y gallant adnabod arwyddion sgam.”

Os ydych wedi dioddef twyll neu achos o ddwyn eich hunaniaeth, neu’n amau hynny, cysylltwch ag Action Fraud ar https://actionfraud.police.uk or 0300 123 2040. Gallwch hefyd fynd i https://bit.ly/HDCRiportio neu ffonio’r heddlu ar 101.

Anfonwch e-byst amheus ymlaen i report@phishing.gov.uk er mwyn ymchwilio iddynt a gallwch anfon negeseuon testun amheus ymlaen i 7726.

Gallwch adrodd am wybodaeth yn ymwneud â thwyll brechlyn yn ddienw i Linell Gymorth Twyll Covid Taclo’r Tacle – http://covidfraudhotline.org neu 0800 587 5030.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle