Meddygon teulu’n dod ynghyd i frechu pobl dros 80 oed yn nes at y cartref

0
345
MERTHYR TYDFIL, WALES - JANUARY 04: A close-up of a Oxford-AstraZeneca vaccine vial containing 10 doses at Pontcae Medical Practice on January 4, 2021 in Merthyr Tydfil, Wales. The Oxford-AstraZeneca COVID-19 vaccine was administered at a handful of hospitals today before being rolled out to hundreds of GP-led sites across the country this week.

Roedd yr hyfforddwraig rygbi Tirion Thomas yn falch o gael ei hanrhydeddu am ei

Mae meddygon teulu mewn cymunedau gwledig yn dod ynghyd i sefydlu canolfannau brechu cymunedol i helpu i frechu mwy o bobl yn nes at y cartref.

Y penwythnos hwn (   Dydd Sadwrn 23 Ionawr a dydd Sul 24 Ionawr) bydd tair canolfan yn agor dan arweiniad practisau meddygon teulu gan alluogi cynnig y brechlyn Pfizer yn lleol yn ogystal â brechlyn Oxford AstraZeneca.

Yn flaenorol, roedd rhaid defnyddio’r brechlyn Pfizer yn y canolfannau brechu torfol arbennig yng Nghymru oherwydd bod angen ei storio ar dymheredd isel iawn.

Mae’r canolfannau brechu cymunedol wedi’u sefydlu gan y byrddau iechyd fel rhan o strategaeth frechu COVID-19Llywodraeth Cymru ac mae’r tair canolfan gyntaf wedi’u lleoli ym Mhen Llŷn, Bwcle yn Sir Ddinbych a Gogledd Pen-y-bont ar Ogwr.

I ddechrau, bydd y canolfannau newydd yn helpu i frechu pobl dros 80 oed a phobl gyda phroblemau symudedd mewn cymunedau gwledig. Rhagwelir y bydd tua 3,000 o bobl yn cael eu brechu yn y canolfannau hyn yn ystod y penwythnos hwn.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething:

“Brechu yw ein prif flaenoriaeth felly hoffwn ddiolch i’r holl bractisau meddyg teulu ar draws Cymru sy’n cydweithio i sefydlu’r canolfannau brechu cymunedol hyn.

“Mae hyn yn galluogi i feddygon teulu ddefnyddio’r ddau frechlyn sydd ar gael i ni a bydd yn helpu i sicrhau bod mwy o bobl yn cael eu brechu mewn lleoliad sy’n nes at y cartref na’r canolfannau brechu mawr.

“Pob wythnos, bydd ein rhaglen frechu yn cyflymu wrth i ragor o ganolfannau agor, ac wrth i ragor o frechlynnau ddod ar gael ar gyfer y fyddin fach o weithwyr proffesiynol gofal iechyd sy’n eu gweinyddu.

“Hoffwn annog unrhyw bractis meddyg teulu arall yn ein cymunedau gwledig a allai gynorthwyo â’r gwaith i gysylltu â’u bwrdd iechyd”.

Mae grŵp o bractisau meddyg teulu yn y Gogledd-orllewin wedi dod ynghyd a byddant yn gweinyddu 1,000 o frechlynnau i’r bobl fwyaf agored i niwed yn eu cymuned leol.

Dywedodd meddyg teulu Meddygfa Tŷ Doctor yng Ngwynedd, Dr Eilir Hughes:

“Yn ein cymuned leol, rydym o leiaf 50 milltir o’r prif ganolfan frechu agosaf yn y Gogledd-orllewin, felly fel y gallwch ddychmygu, mae’n her wirioneddol i sicrhau bod y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymuned yn cael eu brechu cyn gynted â phosibl.

Rwy’n falch o ddweud, o ganlyniad i ymdrech enfawr gan ein staff gweinyddol arbennig ar draws ein cymunedau, y bydd tri practis meddyg teulu yn dod ynghyd y penwythnos hwn i frechu 1,000 o gleifion hŷn mewn dau ddiwrnod. Dyma gamp aruthrol ac mae’n tystio i ymroddiad diflino a chwbl anhunanol ein gweithwyr iechyd proffesiynol bendigedig.

Mae’n fraint gweld ein cymuned yn dod ynghyd i ddiogelu ein trigolion mwyaf agored i niwed a darparu ar eu cyfer.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle