Arbenigwyr byd-eang yn uno i drafod breuddwyd hanesyddol Dora, un o gleifion Freud

0
380
Professor Mark Blagrove, a leading expert in sleep and dreaming at Swansea University’s Department of Psychology

Bydd Mark Blagrove, arbenigwr cwsg Prifysgol Abertawe, yn cyflwyno digwyddiad arbennig i gofio achlysur arwyddocaol yn hanes dadansoddi breuddwydion. 

Bydd yr Athro Blagrove, cyfarwyddwr Labordy Cwsg Prifysgol Abertawe, yn ymuno â’r artist Dr Julia Lockheart o Goleg Celf Abertawe i wahodd cynulleidfa ar-lein i drafod breuddwyd y gwnaeth claf ei rannu â Sigmund Freud ym 1900. 

Bydd y digwyddiad ar-lein am ddim, a gynhelir o 4pm i 6pm ar 31 Ionawr, yn edrych yn Ă´l ar yr achlysur pan wnaeth un o gleifion Freud, a adwaenid fel Dora, rannu breuddwyd am deithio i angladd ei thad. Ar Ă´l adrodd stori’r breuddwyd, rhoddodd Dora y gorau i weld Freud, ac ers hynny mae hi wedi cael ei chlodfori fel arwres ffeministaidd! 

Bydd y digwyddiad Zoom yn trafod Dora – y mae’n hysbys erbyn hyn mai menyw ifanc o Fienna o’r enw Ida Bauer ydoedd – a’r berthynas rhwng ei bywyd cymdeithasol a’i bywyd personol a’r ddau freuddwyd y soniodd amdanynt wrth Freud. 

Bydd y breuddwyd yn cael ei ddarllen o’r un ystafell yn fflat Freud yn Fienna, sef Amgueddfa Sigmund Freud bellach, lle aeth Dora i weld Freud. 

Yn ystod y sgwrs, bydd pobl o bedwar ban byd hefyd yn gweld y breuddwyd yn cael ei baentio ac yn trafod y paentiad â’r artist.  

Mae’r digwyddiad, sef Trafod a phaentio breuddwyd yr arwres ffeministaidd Dora am angladd ei thad,wedi cael ei drefnu gan yr Athro Blagrove a Dr Lockheart fel rhan o’u cydweithrediad rhwng gwyddoniaeth a chelf DreamsID.com (Dreams Illustrated and Discussed).  

Yn ogystal ag aelodau o’r cyhoedd o bedwar ban bydd, ceir panel o arbenigwyr, gan gynnwys seicolegwyr, haneswyr a seicdreiddwyr. Bydd aelodau’r panel fel a ganlyn: 

  • Dr Deirdre Barrett, Ysgol Feddygaeth Harvard, golygydd Dreaming, cyfnodolyn academaidd Cymdeithas Seicolegol America; 
  • Kate Novack, sydd wedi’i henwebu am wobrau Emmy am ei gwaith ffilm ac a wnaeth gyfarwyddo ac ysgrifennu Hysterical Girl, rhaglen ddogfen ddiweddar am Dora a’r mudiad cyfoes #metoo; 
  • Yr Athro Dany Nobus, Athro Seicoleg a Seicdreiddio, Prifysgol Brunel, Llundain, ac un o gymrodyr Amgueddfa Freud yn Llundain;  
  • Dr Brigitte Holzinger, seicotherapydd a Chyfarwyddwr Sefydliad Ymwybod ac Ymchwil Breuddwydion Fienna; 
  • Katharina Adler, awdures y nofel Ida a gor-wyres i Ida Bauer / Dora; 
  • Yr Athro Sharon Sliwinski, athro diwylliant ac astudiaethau’r cyfryngau ym Mhrifysgol Gorllewin Ontario; 
  • Zora Wessely, sy’n astudio ym Mhrifysgol Fienna. 

Gallwch gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad a chofrestru ar ei gyfer nawr


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle