Ymestyn cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim, mae Adolygiad Llywodraeth Cymru yn cytuno â Plaid Cymru

0
402
Adam Price - Plaid Cymru Leader

Nid yw pawb sydd angen prydau ysgol am ddim yn eu derbyn – mae hyn yn ôl canfyddiadau Adolygiad Tlodi Plant Llywodraeth Cymru, a welwyd gan Blaid Cymru.

Mae gwybodaeth a gafwyd gan Blaid Cymru yn datgelu bod yr adolygiad wedi canfod bod “rhai aelwydydd yng Nghymru sydd ddim yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn dal i gael trafferth bwydo eu teuluoedd.” 

Yr awgrym mwyaf cyffredin gan ymatebwyr i’r adolygiad oedd “yr angen i ehangu cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim i ystod ehangach o blant a phobl ifanc.”

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, “wrth wneud dewisiadau polisi eraill yn flaenoriaeth, mae Llywodraeth Lafur Cymru i bob pwrpas wedi rhoi pris ar ddileu tlodi plant.”

Mae ffigurau gan y Grŵp Gweithredu Tlodi Plant yn dangos nad yw dros 70,000 o blant sy’n byw islaw llinell dlodi’r DU yng Nghymru yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd. Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro y dylid ymestyn cymhwysedd i bob plentyn o gartrefi sy’n derbyn Credyd Cynhwysol. 

Ar ôl herio’r Prif Weinidog ar y mater, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS:

“Nid Plaid Cymru yn unig sy’n cyflwyno’r achos dros ymestyn y meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim, ond hefyd Adolygiad Tlodi Plant Llywodraeth Cymru ei hun. 

“Wrth wneud dewisiadau polisi eraill yn flaenoriaeth, mae Llywodraeth Lafur Cymru i bob pwrpas wedi rhoi pris ar ddileu tlodi plant. 

“Mae’r Grŵp Gweithredu Tlodi Plant wedi canfod mai Cymru sydd â‘r ddarpariaeth leiaf hael ar gyfer prydau ysgol am ddim ledled y DU. Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno’r achos dro ar ôl tro dros ymestyn Prydau Ysgol am Ddim i unrhyw blentyn mewn unrhyw deulu sy’n derbyn credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol. Erbyn hyn, mae canlyniadau adolygiad Llywodraeth Cymru ei hun o Dlodi Plant wedi dod i’r un casgliad.

“Dylai unrhyw lywodraeth dosturiol fod yn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd i’r ysgol yn llwglyd nac i’r gwely’n oer, ac eto nid yw dros 70,000 o blant sy’n byw islaw llinell dlodi’r DU yng Nghymru yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd. I gywiro yr anghyfiawnder yma, bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn sicrhau nad oes yr un o’r plant hyn yn mynd yn llwglyd. Fy nghwestiwn i yw, pam na all Llywodraeth bresennol Cymru wneud yr un peth?”

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle