Y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn lansio ‘Cystadleuaeth Dyma Ein Stori’ sy’n gwahodd myfyrwyr uwchradd i greu ymgyrch gymunedol i ysgogi pobl i gymryd rhan yng Nghyfrifiad 2021

0
299

Caiff Cyfrifiad 2021 ei gynnal yn fuan, ac mae cystadleuaeth ‘Dyma Ein Stori’ wedi cael ei lansio er mwyn annog myfyrwyr oedran ysgol uwchradd i gymryd rhan yn y digwyddiad unwaith bob degawd.

Mae myfyrwyr rhwng 11 a 18 oed yng Nghymru a Lloegr yn cael eu herio i greu ymgyrch gymhellol i ysgogi eu cymuned leol i gymryd rhan yn y cyfrifiad. Yn ogystal â chadw mewn cysylltiad drwy weithio gyda’i gilydd mewn byd rhithwir, bydd myfyrwyr yn ennill sgiliau cyfathrebu, meddwl yn feirniadol a chyflogadwyedd gwerthfawr.

Mae’r gystadleuaeth yn rhan o raglen ehangach i ysgolion sy’n cael ei chynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Nod y rhaglen i ysgolion uwchradd, sydd wedi’i datblygu gan EVERFI, yw addysgu myfyrwyr am bwysigrwydd y cyfrifiad a sut y gall data fod o fudd i’w hardaloedd lleol drwy weithgareddau hynod ddiddorol a thrawsgwricwlaidd.

Hyd yma mae mwy na 700 o ysgolion wedi cofrestru.

Meddai Iain Bell, dirprwy ystadegydd gwladol SYG: “Mae’n wych gweld bod cynifer o ysgolion wedi cofrestru ar gyfer y rhaglen ac rwy’n edrych ymlaen at weld rhai o’r cynigion arloesol a diddorol o’r gystadleuaeth genedlaethol hon.

“Bydd y rhaglen i ysgolion uwchradd yn helpu plant i ddysgu mwy am fathemateg a’u hardal leol eu hunain, a bydd y gystadleuaeth hon hefyd yn codi ymwybyddiaeth o’r cyfrifiad, sy’n llywio penderfyniadau ar lawer o faterion pwysig fel nifer y lleoedd mewn ysgolion neu nifer y gwelyau mewn ysbytai.”

Gall myfyrwyr greu eu hymgyrchoedd ar gyfer y cyfrifiad mewn unrhyw fformat. O daflenni a phosteri i’w rhannu yn eu hardal leol neu ar lein, i erthyglau newyddion ar wefannau neu fideos ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r gwobrau ar gyfer y cynigion gorau yn cynnwys:

● sesiwn holi ac ateb gyda seren Gogglebox a TikTok, Tom Malone, sy’n gennad Rhaglen Addysg Uwchradd y Cyfrifiad
● y cyfle i gael eich cynnwys mewn catalog cyhoeddus o ymgeiswyr buddugol yn yr Archifau Gwladol
● talebau cyfarpar TG gwerth £1,000 ar gyfer eich ysgol

Meddai Nick Fuller, Llywydd EVERFI EdComs: “Gan y bydd llawer o fyfyrwyr yn gweithio o bell erbyn hyn, mae’n bwysicach nag erioed eu bod yn cadw mewn cysylltiad â’u hysgol a’r gymuned ehangach. Gyda llai na 3 mis tan Ddiwrnod y Cyfrifiad ddydd Sul 21 Mawrth, mae’n bleser gennym gyhoeddi lansiad Cystadleuaeth Cyfrifiad 2021 i Ysgolion. Bydd y gystadleuaeth hon yn ysbrydoli eich myfyrwyr i fod yn ddinasyddion gweithgar ac yn cefnogi ysgolion i ddod â’u cymunedau at ei gilydd. Gellir defnyddio’r holl ddeunyddiau yn yr ystafell ddosbarth neu o bell.”

Mae’r ymgyrch yn cael ei chefnogi gan y Newyddiadurwr Addysg a Chyd-sylfaenydd Teacher Tapp, Laura McInerney, a ddywedodd:

“Y cyfrifiad yw un o’r gweithgareddau dysgu mwyaf bob degawd. Mae annog myfyrwyr i gymryd rhan yn ffordd wych iddynt ddysgu am ddata, daearyddiaeth, mathemateg ac ymchwil gymdeithasol. Dylai cynifer o ysgolion â phosibl gymryd rhan!”

Mae’n rhaid cyflwyno cynigion erbyn 26 Mawrth.

Y gobaith yw y bydd yr ymgyrch i ysgolion yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r cyfrifiad digidol yn gyntaf, a fydd yn digwydd ar 21 Mawrth 2021. Caiff y cyfrifiad ei gynnal unwaith bob deng mlynedd ac mae’n cynnig ciplun o gartrefi yng Nghymru a Lloegr sy’n helpu i gynllunio ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus.

Mae amser o hyd i gofrestru ar gyfer y rhaglen i ysgolion. Ewch i addysgycyfrifiad.org.uk i gofrestru a chymryd rhan.

I gael rhagor o wybodaeth am y cyfrifiad, ewch i cyfrifiad.gov.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle