Hywel Dda yn ymestyn ei gynnig brechu ymhellach

0
427

Gan fod cyfran uchel o’r tri grŵp blaenoriaeth cyntaf wedi derbyn neu wedi archebu lle ar gyfer eu brechiadau COVID-19 yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro; mae’r rhaglen frechu yn cael ei ymestyn.

Bydd meddygfeydd teulu yn cysylltu â phobl rhwng 70 a 74 oed a’r rhai sydd wedi cael eu adnabod eu bod yn glinigol hynod fregus (yr ysgrifennwyd atynt yn ddiweddar er mwyn cysgodi) i dderbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn yr wythnos hon.

Ar yr un pryd, bydd meddygon teulu yn cwblhau neu’n sicrhau eu bod wedi cysylltu â phob un dros 80 oed yn eu hardaloedd.

Mae meddygfeydd hefyd wedi bod yn brysur yn brechu preswylwyr cartrefi gofal oedolion hŷn. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y bwrdd iechyd fod tua 85.7% o oedolion hŷn mewn cartrefi gofal cymwys wedi cael eu brechu ac mae’r ffigwr hwn wedi codi ymhellach yr wythnos hon i fwy na 90%.

Cyhoeddodd GIG Lloegr ddoe eu bod wedi cyrraedd y garreg filltir o gynnig brechlynnau ym mhob cartref gofal oedolion hŷn cymwys, a chyflawnwyd y garreg filltir hon ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yr wythnos diwethaf – gyda dim ond naw cartref gofal naill ai wedi’u brechu’n rhannol neu lle nad yw’r brechu wedi gallu digwydd eto oherwydd rhesymau diogelwch yn ystod achosion lleol.

Mae llythyrau at bawb ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sydd rhwng 75-79 oed i gyd wedi’u hanfon ac felly dylai pawb yn y grŵp oedran hwn dderbyn eu llythyr i wneud apwyntiad erbyn diwedd yr wythnos hon.

Mae pobl yn y grŵp oedran hwn yn cael eu brechu mewn chwe chanolfan brechu dorfol ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Os rhoddir apwyntiad i dderbyn eich brechlyn mewn canolfan frechu dorfol mae’n bwysig iawn eich bod yn gwneud pob ymdrech i fynychu. Ni fydd gan feddygfeydd teulu y cyflenwadau brechlyn sy’n ofynnol i frechu pobl rhwng 75 a 79 oed a gofynnir i bobl beidio â chysylltu â’u meddyg teulu i ofyn am apwyntiad.

Gallwn eich sicrhau bod ein canolfannau brechu torfol yn darparu amgylchedd diogel, a lle i gynnal pellter cymdeithasol wrth ganiatáu i fwy o bobl gael eu brechu mor effeithlon a chyn gynted â phosibl.

Mae’r bwrdd iechyd hefyd yn gweithio’n agos gyda sefydliadau cymunedol a grwpiau trafnidiaeth i sicrhau bod cefnogaeth yn cael ei rhoi i’r rheini sy’n ei chael hi’n anodd i deithio i ganolfan frechu dorfol. Cysylltwch â’r bwrdd iechyd gan ddefnyddio’r rhif ar eich llythyr apwyntiad os oes angen cymorth arnoch gyda chludiant.

Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Ein nod yw cynnig y brechlyn i 100% o bobl yn y grwpiau blaenoriaeth ac yn realistig rydym yn disgwyl cyflawni tua 75% o’r boblogaeth yn gyffredinol yn cael eu brechu. Felly mae’r nifer uchel sy’n manteisio ar y grwpiau blaenoriaeth – lle gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed rhag marwolaeth neu niwed difrifol rhag COVID-19 – rydym yn hyderus y byddwn yn cyrraedd y targed o gynnig y brechlyn i bobl mewn grwpiau blaenoriaeth 1-4 erbyn canol mis Chwefror.

“Rydym yn cyflwyno’r rhaglen frechu hon mor gyflym ag y gallwn, gyda thimau’n gweithio’n anhygoel o galed, ac yn defnyddio ein holl gryfderau fel system iechyd integredig. Ein nod yw sicrhau ein bod yn cyrraedd pawb yn y grwpiau blaenoriaeth uchaf cyn gynted â phosibl ac mor agos at adref â phosibl gan gydnabod y gwahanol fathau o frechlyn sydd ar gael inni a’r lefelau cyflenwi tebygol. Dyna pam y bydd rhai grwpiau’n cael eu brechu yn eu meddygfa leol gan feddygon teulu ac eraill mewn canolfannau brechu torfol, weithiau ar yr un pryd. ”

Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Hywel Dda: “Ar ran y bwrdd iechyd hoffwn ddiolch i bawb sy’n gweithio yn ein gwasanaethau gofal sylfaenol a’n canolfannau brechu torfol ac yn eu cefnogi am eu gwaith caled yn cyflwyno’r rhaglen frechu fwyaf mae Cymru erioed wedi ei gyflawni.

“Rydym yn deall bod pobl yn awyddus i dderbyn eu brechlyn cyn gynted â phosibl. Rydyn ni’n diolch i bawb am eu hamynedd parhaus wrth i ni weithio ein ffordd trwy ein grwpiau blaenoriaeth, gyda’r uchelgais i gynnig brechlyn i bawb sydd yng ngrwpiau blaenoriaeth 1 i 9 erbyn y Pasg. “

Mae troseddwyr yn defnyddio’r pandemig i sgamio’r cyhoedd – peidiwch â dod yn ddioddefwr. Yr wythnos hon rydym wedi cael gwybod am sgam e-bost yn cylchredeg yn honni ei fod o’r GIG gyda dolenni i ffurflen. Os ydych chi’n derbyn un, peidiwch â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol. Gwyliwch am y sgamiau hyn a siaradwch â ffrindiau a theulu a allai fod mewn perygl – cewch eich hysbysu gan eich meddyg teulu neu fwrdd iechyd pan fydd eich tro chi i dderbyn brechlyn. Ni ofynnir i chi byth am unrhyw fanylion banc na thaliad.

I gael mwy o wybodaeth am raglen frechu Hywel Dda, ewch i: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwybodaeth-covid-19/rhaglen-frechu-covid-19/

Gwybodaeth bellach a sut i gadw’ch hun ac eraill yn ddiogel ar ôl i chi gael eich brechiad COVID-19

Ar hyn o bryd mae dau frechlyn gwahanol ar gael yng Nghymru sydd wedi’u hawdurdodi gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn seiliedig ar asesiad llawn o’u diogelwch a’u heffeithiolrwydd. Byddwch yn cael un o’r brechlynnau hyn yn dibynnu ar ba un sydd ar gael.

Mae angen dau ddos ar wahân ar gyfer y ddau frechlyn i ddarparu’r amddiffyniad tymor hwy gorau. Byddwch yn derbyn llythyr arall pan ddaw’n amser archebu eich apwyntiad ail ddos.

Nid yw’n hysbys eto a fydd y brechlyn yn eich atal rhag dal a throsglwyddo’r feirws. Bydd hefyd yn cymryd ychydig wythnosau i’ch corff adeiladu amddiffyniad rhag y brechlyn felly dylech barhau i gymryd y rhagofalon a argymhellir fel pellhau cymdeithasol, hylendid dwylo a gorchudd wyneb er mwyn osgoi haint.

Er y gall rhai pobl ddal i gael COVID-19 ar ôl cael brechlyn, dylai hyn fod yn llai difrifol. Bydd dau ddos yn lleihau eich risg o fynd yn ddifrifol wael.

Symptomau pwysicaf COVID-19 yw dyfodiad diweddar unrhyw un o’r canlynol:

  • Peswch parhaus newydd
  • tymheredd uchel
  • colli, neu newid yn eich synnwyr arferol o flas neu arogl

Mae gan rai pobl hefyd ddolur gwddf, cur pen, tagfeydd trwynol, dolur rhydd, cyfog a chwydu.

Os oes gennych unrhyw un o’r symptomau uchod, arhoswch gartref a threfnwch i gael prawf trwy ffonio 119 neu trwy glicio yma https://gov.wales/coronavirus

Gallwch ddarllen mwy am frechlyn COVID-19 yma: https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle