Mae Julie James, y Gweinidog Tai, wedi cyhoeddi ein bod yn mynd i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn 2021, a’n bod am ragori arno.
A gwerth 12 mis o ffigurau swyddogol eto i ddod i law, mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod ychydig o dan 3,000 o gartrefi fforddiadwy newydd wedi’u darparu yn ystod blwyddyn ariannol 2019-2020, sy’n dod â chyfanswm nifer y cartrefi a ddarparwyd i 19,000.
Mae’r ffigurau a ryddhawyd heddiw yn ei gwneud yn glir bod Llywodraeth Cymru wedi darparu’r lefel flynyddol uchaf o gartrefi cymdeithasol ers dechrau eu cofnodi yn 2008.
Bydd y gyfres nesaf o ystadegau swyddogol, a fydd yn cadarnhau bod y targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy wedi’i gyrraedd, yn cael ei chyhoeddi yn yr hydref.
Mae’r data gweithredol yn awgrymu y byddwn wedi rhagori ar y targed hwn erbyn mis Mawrth.
Dywedodd Julie James:
“Dw i ar ben fy nigon ein bod am daro ein targed ar gyfer cartrefi fforddiadwy y tymor hwn, a hynny’n hawdd. Mae’r cynnydd mewn tai fforddiadwy yn deillio’n uniongyrchol o’n buddsoddiad ym maes tai y tymor hwn, buddsoddiad na welwyd ei debyg.
“Mae’r rhain yn gartrefi cynnes, ynni-effeithlon, o ansawdd uchel, sydd wedi’u codi i bara ac, yn bwysig iawn, maen nhw’n fforddiadwy i’w rhedeg.
“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol i bawb, ac mae’n wych gweld ein bod, er gwaethaf y pandemig a’i effaith ar adeiladwyr tai a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, yn dal i fod wedi gallu adeiladu cartrefi fforddiadwy yr oedd eu hangen yn fawr, yn gyflym ac yn ôl y gofyn.
“Mae ein data ein hunain yn dweud wrthon ni ein bod wedi taro’r targed o 20,000, ac wedi rhagori arno.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £2bn ym maes tai ar draws Cymru yn ystod tymor y Senedd hon, gan gynnwys £33m yn ystod cyfnod diweddaraf y Rhaglen Tai Arloesol a mwy nag £89m yn y Grant Tai Cymdeithasol yn 2020-2021.
Bydd y cyllid yn parhau yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, a mwy na £200m wedi’i neilltuo i godi cartrefi y gall pobl fforddio eu prynu a byw ynddynt.
Ychwanegodd y Gweinidog:
“Mae gofalu bod modd i bawb yng Nghymru gael cartref fforddiadwy o ansawdd uchel yn un o brif flaenoriaethau’r llywodraeth hon, ac mae’n allweddol i’n hymrwymiad i fynd i’r afael â digartrefedd a rhoi terfyn arno.
“Mae tai fforddiadwy, diogel, o ansawdd yn ganolog i unrhyw gymuned – gan alluogi pobl a theuluoedd i ffynnu ym mhob rhan o’u bywydau. Wnawn ni ddim stopio ar ôl cyrraedd 20,000 ac fe fyddwn ni’n parhau i ddarparu tai i’r rheini sydd eu hangen.”
Dywedodd Joanna Davoile, cyfarwyddwr datblygu Tai Wales and West:
“Mae cael cartref cyfforddus, diogel, gwirioneddol fforddiadwy yn bwysicach nag erioed. Mae Tai Wales and West wedi ymrwymo i helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei tharged o godi 20,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn diwedd tymor y Senedd hon.
“Rydyn ni’n bwriadu codi 2,500 o gartrefi dros y pum mlynedd nesaf, ac mae gyda ni fwy na 900 o gartrefi newydd ar y gweill ledled Cymru eisoes. Mae’r rhain yn cynnwys cartrefi modern, ynni-effeithlon yn llawer o ardaloedd awdurdodau lleol Cymru, o Gaerdydd i Sir Gaerfyrddin, Conwy i Wrecsam, ac ar draws Ceredigion a Sir Benfro. Rydyn ni’n adeiladu cymysgedd o lety – cartrefi i deuluoedd, fflatiau, llety gofal ychwanegol a llety byw â chymorth arbenigol, yn ôl anghenion cymunedau lleol.
“Bydd ein datblygiadau tai fforddiadwy yn cefnogi economi adeiladu leol Cymru ac yn creu cymunedau lle gall pobl ffynnu.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle