Baw cŵn

0
536

Ydych chi’n adnabod y perchnogion cŵn hyn?Rydym yn derbyn nifer o gwynion yn ymwneud â baw cŵn yn Stryd Iago, Heol Glenella a Heol Abertawe yn Llanelli.

Er gwaethaf ymdrechion gorau ein tîm gorfodi, rydym wedi methu â dod o hyd i’r troseddwyr ac rydym yn gofyn i chi adnabod rhai pobl yr hoffem siarad â nhw.Mae methu â chodi baw cŵn yn drosedd, mae’n hyll ac yn berygl posibl i iechyd.

Mae perchen ar gi yn dod â chyfrifoldebau, ac un o’r rhain yw glanhau ar ei ôl – gall methu â gwneud hyn arwain at Hysbysiad Cost Benodedig o £100 neu gamau pellach drwy’r llys.Os gallwch ein helpu i adnabod y bobl hyn, cysylltwch â ni’n breifat drwy anfon neges e-bost at ENVBSUHUB@sirgar.gov.uk neu drwy neges uniongyrchol – peidiwch â gadael gwybodaeth yn y sylwadau.Os oes problem gyson o ran baw cŵn yn eich ardal, rhowch wybod i ni. Gallwch rannu’ch gwybodaeth yma https://crowd.in/mU7XdG


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle