Mae sector casglu eich hun Cymru wedi cael hyder o’r newydd, gyda’r cyfryngau cymdeithasol ac atyniad natur yn ysgogi’r twf.
Dywedodd yr arbenigwr garddwriaeth Chris Creed fod nifer o esiamplau o fentrau llwyddiannus iawn i’w cael ar draws Cymru, o dyfwyr ffrwythau meddal a blodau i leiniau pwmpenni graddfa fawr.
“Ddeng mlynedd yn ôl, roedden ni’n meddwl bod y sector casglu eich hun traddodiadol wedi dod i ben ond mae bellach yn ffurf boblogaidd iawn ar dwristiaeth fferm,” meddai wrth y bobl a oedd yn gwrando ar weminar Cyswllt Ffermio yn ddiweddar.
“Mae gan bobl hoffter o amaethyddiaeth, maen nhw’n hoffi diwrnod allan ar y fferm. Y profiad o’r fferm sy’n bwysig; nid yw o anghenraid yn ymwneud â chynhyrchiant.”
Un o’r camau cyntaf i ffermwyr sy’n meddwl am gamu i’r sector hwn yw ystyried a fydd yn ymyrryd â’u mentrau presennol.
“Dydy’n dda i ddim dechrau busnes casglu ffrwythau meddal eich hun os mai Mehefin a Gorffennaf yw’r misoedd prysuraf ar eich fferm,” awgrymodd Mr Creed.
Meddyliwch pwy fydd yn rhedeg y fenter. “Mae’n mynd â llawer o amser,” meddai Mr Creed, ond fe all aelodau iau’r teulu ysgwyddo’r cyfrifoldeb am wahanol agweddau ar y fenter, megis marchnata drwy’r cyfryngau cymdeithasol.
Mae’n fanteisiol os ydych yn gwbl gyfarwydd â’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn hyrwyddo’r fenter a darparu gwybodaeth am oriau agor a pha gynnyrch sydd ar gael – yng Nghymru mae hyfforddiant ar gael drwy sefydliadau fel Cyswllt Ffermio.
Mae’r ffordd y mae’r fferm yn cyflwyno ei hun i’r cyhoedd yn bwysig – mae’r rhan fwyaf o ffermydd yn llefydd atyniadol i ymweld â nhw. “Mae ymwelwyr yn disgwyl mwd ac anifeiliaid ond mae angen i’r fferm fod yn daclus, mae argraffiadau cyntaf yn hollbwysig,” cynghorodd Mr Creed. Fodd bynnag, nid yw ffermwyr yn sylweddoli cymaint o adnodd sydd ganddynt o ran pa mor atyniadol yw amgylchedd fferm arferol.
Yn hytrach na chael effaith negyddol ar fusnesau casglu eich hun, mae cyfyngiadau Covid wedi eu helpu i ailstrwythuro er mwyn osgoi sefyllfaoedd pan maent dan eu sang ag ymwelwyr.
Mae systemau archebu newydd yn caniatáu iddynt reoli nifer yr ymwelwyr ac ysgafnu’r pwysau ar y fynedfa a’r lle parcio.
Nid yw bod yn agos i ardaloedd trefol a rhwydwaith ffyrdd da bellach yn anghenraid ar gyfer menter casglu eich hun lwyddiannus, meddai Mr Creed.
“Gydag offer sat nav gall pobl ddod o hyd i lefydd mwy anghysbell, mae rhai ymwelwyr yn ystyried y siwrnai i’r fferm fel rhan o’r diwrnod allan, mae’n ymddangos nad yw bod yn lleol yn bwysig mwyach.”
Rhaid i bwynt prisio’r cynnyrch fod yn ddigon uchel i fod yn broffidiol – diben menter casglu eich hun yw peidio â chystadlu â phrisiau’r archfarchnad.
“Ni fydd ymwelwyr yn meddwl ddwywaith am dalu £2.50 am bwmpen ar fferm hyd yn oed os ydynt i’w cael am 50c yn yr archfarchnad,” meddai Mr Creed.
“Gall teuluoedd wario £200 ar ddiwrnod mewn parc thema, felly mae gwario £20 ar brofiad fferm yn werth da am arian. Mae darparu te, coffi a chacennau wastad i’w groesawu ac fe allech eu gweini allan o hen gynhwysydd cludo gyda tho pabell dros dro a byrddau picnic.”
Ond nid yw menter o’r fath yn addas i bawb, ychwanegodd.
“Mi fydd pobl yn bwyta rhai o’r mefus a’r mafon wrth eu casglu, wedi’r cyfan rydych chi yn arbed 40c-50c y cilogram ar eich costau casglu. Os na allwch chi ddioddef hynny, yna nid dyma’r gwaith ichi.”
Ond mae’r elw ar fuddsoddiad yn ansicr, mae’n dibynnu ar lawer o ffactorau gan gynnwys pa mor dda y mae’r cnydau’n cael eu tyfu.
Cynghorodd Mr Creed ffermwyr i feddwl yn ofalus cyn mynd i lawr y llwybr hwn os yw adnoddau’n brin.
Mae tyfu dan dwneli polythen yn fuddsoddiad drud ac mae arnoch angen caniatâd cynllunio – disgwyliwch wario £150,000/hectar.
Ond mae twneli polythen yn sicrhau elw cyflym ar fuddsoddiad – gallwch eu codi ym mis Mawrth a gallwch gynaeafu’r ffrwythau dri mis yn ddiweddarach.
“Gallwch fod mewn elw erbyn blwyddyn dau, hyd yn oed ar y lefel hon o fuddsoddiad,” meddai Mr Creed.
Ond rhaid i’r ffrwythau a’r llysiau fod wedi cael eu tyfu’n dda.
“Mae ffermwyr da byw yn aml yn cael trafferth â hwsmonaeth planhigion ond mae nifer o ffynonellau cyngor i’w cael yng Nghymru sy’n gallu helpu ag agronomeg a rheoli plâu a chlefydau,” meddai Mr Creed.
“Rhaid ichi fod â diddordeb ac awydd, fe allech golli cnwd cyfan mewn diwrnod os yw’r systemau dyfrhau yn methu, allwch chi ddim gwneud pethau rhywsut rhywsut.”
Dywedodd y gall cystadleuaeth yn aml weithio o blaid menter casglu eich hun oherwydd fe all ddenu pobl i ardal benodol.
Mae lleiniau pwmpenni a blodau haul yn “hawdd”, awgrymodd Mr Creed, gan mai bach iawn yw’r buddsoddiad. “Mae blodau haul yn costio £100/hectar mewn costau hadau ac fe allwch godi ar bobl i fynd i’r cae i dynnu lluniau, ac fe allwch yn hawdd dyfu 2,000 o bwmpenni yr erw.”
Mae blodau wedi’u torri hefyd yn dod yn boblogaidd iawn â siopau blodau lleol a hefyd ar gyfer priodferched sydd eisiau dewis eu blodau priodasol eu hunain.
Ond mae angen rhoi ystyriaeth ofalus i’r parcio, yn enwedig ar gyfer pwmpenni, oherwydd fe fydd pobl yn ymweld yn yr hydref pan fo’r amodau’n wlyb.
“Peidiwch â meddwl y bydd glaw yn atal pobl, byddant yn dod draw ac yn mynd allan i’r caeau pan mae’n bwrw glaw’n drwm.”
Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle