Cyfle newydd i rannu profiadau o fyw yn ystod pandemig

0
375

Wrth i’r pandemig barhau i reoli ein bywydau, gofynnir i bobl yng Nghymru rannu eu profiadau fel rhan o ymchwil barhaus i’r ffordd y maent yn ymdopi Ăą’r argyfwng coronafeirws. 

Lansiwyd prosiect Lles Cymru, dan arweiniad yr Athro Nicola Gray o Brifysgol Abertawe a’r Athro Robert Snowden o Brifysgol Caerdydd, ym mis Mehefin y llynedd er mwyn archwilio effaith Covid-19 ar iechyd meddwl a lles emosiynol pobl yng Nghymru. 

Gyda chefnogaeth pob un o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru, defnyddir canfyddiadau’r prosiect unigryw er mwyn helpu’r GIG yng Nghymru i ddeall y materion sy’n effeithio ar boblogaeth Cymru, yn ogystal Ăą llywio gwasanaethau cymorth yn y dyfodol. 

Gwnaeth mwy na 15,000 o bobl ledled Cymru gymryd rhan yn arolwg cychwynnol y prosiect ac o ganlyniad i’r canfyddiadau daeth yr ymchwilwyr i’r casgliad bod Cymru’n wynebu ton o broblemau iechyd meddwl yn sgil Covid-19. 

Gwelsant mai oedolion ifanc, menywod a phobl o ardaloedd difreintiedig oedd yn dioddef fwyaf. Roedd oddeutu hanner y cyfranogwyr yn dangos gofid seicolegol clinigol sylweddol ac roedd 20 y cant yn dioddef effeithiau difrifol. 

Nawr, mae’r ymchwilwyr am weld a yw’r pandemig parhaus wedi arwain at ddirywiad arall yn lles meddyliol y boblogaeth, a oes lefelau sefydlog o ofid seicolegol, neu a yw iechyd meddwl pobl wedi cael ei adfer i’r un lefelau ag yr oeddent cyn Covid-19. 

Meddai’r Athro Gray: “Mae’r gwaith ymchwil hwn yn bwysig iawn. Ar ĂŽl cynnal un arolwg yn unig, gwnaethom nodi materion difrifol a chanddynt oblygiadau hirdymor i bawb yng Nghymru. 

“Cawsom gefnogaeth wych gan bobl Cymru ac rydym yn gobeithio y byddant yn barod i barhau i gymryd rhan yn y prosiect allweddol hwn. Peidiwch Ăą phoeni os na wnaethoch gymryd rhan yn yr arolwg ym mis Mehefin y llynedd. Hoffem glywed gennych chi hefyd.” 

Mae grĆ”p ymchwil prosiect Lles Cymru hefyd yn cynnwys Dr Chris O’Connor, Cyfarwyddwr Adrannol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, gyda chymorth gan y gweithiwr marchnata proffesiynol Stuart Williams a thri myfyriwr PhD o Brifysgol Abertawe, sef James Knowles, Jennifer Pink a Nicola Simkiss.

Mae’r arolwg diweddaraf hwn, a fydd ar agor tan 20 Chwefror, yn ddienw ac mae’n gofyn i gyfranogwyr gyflwyno gwybodaeth am bynciau megis pryderon sy’n parhau, y ffordd y mae Covid-19 wedi effeithio ar eu sefyllfa ariannol, neu a fu’n rhaid iddynt ganslo digwyddiadau mawr megis priodasau neu wyliau. 

Ychwanegodd yr Athro Gray: “Fodd bynnag, rydym hefyd yn awyddus i glywed am unrhyw brofiadau cadarnhaol. Felly, rydym yn gofyn i bobl ddweud wrthym a ydynt wedi gallu mwynhau unrhyw beth yn ystod cyfnod yr argyfwng coronafeirws – megis treulio mwy o amser gyda’r teulu neu ddechrau gwerthfawrogi’r hyn sydd o’u cwmpas.” 

Rhoddir canfyddiadau’r arolwg hwn ac unrhyw arolygon dilynol i bob bwrdd iechyd yng Nghymru fel y gellir defnyddio’r wybodaeth i nodi’r cymorth y mae ei angen ar sectorau gwahanol y boblogaeth. 

Ewch i wefan Lles Cymru i gael mwy o wybodaeth am y prosiect neu i gymryd rhan eich hun 

Mae’n hawdd iawn cyrchu’r holiadur ar-lein a gellir ei gwblhau o fewn tua 10 munud. 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle