Mae TUC Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu mynediad i’w Chynllun Cymorth Hunanynysu oherwydd ofnau nad oes digon o weithwyr yn gallu cael gafael ar y taliadau o £500.
Ar hyn o bryd dim ond 1 o bob 8 gweithiwr yng Nghymru sy’n gymwys i gael cymorth drwy’r cynllun ac mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos mai dim ond 30% o geisiadau am y gronfa sydd wedi’u derbyn. Mae ymchwil newydd gan y TUC ar sut mae’r rhaglen sydd bron yn union yr un fath yn gweithredu yn Lloegr hefyd wedi codi pryderon pellach.
Yn ogystal, mae ymchwil newydd gan TUC Cymru/YouGov wedi canfod bod un o bob pump o bobl yng Nghymru wedi dweud y byddai gofyn iddynt hunanynysu am 10 diwrnod yn cael effaith negyddol ar eu cyllid personol. Mae’r ffigur hwn yn codi i 43% ar gyfer rhai gweithwyr ar gyflogau is.
Mae Llywodraeth yr Alban yr wythnos hon wedi ymrwymo i ehangu eu cynllun taliadau ynysu i bob gweithiwr sy’n ennill y Cyflog Byw Go Iawn (£9.50 yr awr) neu lai. Bydd y symudiad hwn yn golygu y bydd 200,000 yn fwy o bobl yn gallu cael help.
Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:
“Dylai sicrhau bod gweithwyr sy’n gorfod ynysu fforddio gwneud hynny yn cael ei ystyried yn rhan ganolog o gynllun rheoli heintiau’r Llywodraeth. Rydym yn ofni bod y dull presennol yn gadael gormod o aelwydydd incwm isel yn fwyfwy agored i niwed a heb y cymorth sydd ei angen arnynt yn ddybryd.
“Yn y pen draw, Llywodraeth Geidwadol San Steffan sy’n gyfrifol am ein system tâl salwch sydd wedi torri – sef y taliad lleiaf hael yn Ewrop. Ond os na fydd San Steffan yn gweithredu yna dylai Llywodraeth Cymru.
“Dylid dilyn ymrwymiad Llywodraeth yr Alban i ehangu mynediad i bawb sy’n cael eu talu ar Gyflog Byw Go Iawn neu is – mae’n ddull tecach a symlach na’n model presennol. Mae angen i ni hefyd sicrhau bod yr help sydd ar gael yn cael ei gyfleu’n effeithiol i bawb sydd ei angen.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle