Annog busnesau i gofrestru i gael cymorth ariannol

0
326

Mae Llywodraeth Cymru yn annog busnesau i sicrhau eu bod wedi cofrestru i gael cymorth ariannol i’w helpu i ymdopi â’r effeithiau y mae’r coronafeirws yn parhau i’w cael.

Fis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn ychwanegol gwerth £200 miliwn i helpu cwmnïau tan ddiwedd mis Mawrth. Mae hynny’n golygu bod Llywodraeth Cymru wedi darparu pecyn cymorth sy’n werth cyfanswm o £650 miliwn i fusnesau yn ystod y cyfnod rhwng mis Rhagfyr a mis Mawrth.

Bwriedir y pecyn ariannol yn bennaf ar gyfer busnesau sy’n talu ardrethi annomestig ac sydd wedi cael eu gorfodi i gau neu weithredu’n wahanol oherwydd y cyfyngiadau a gyflwynwyd yn sgil y coronafeirws.

Gan fod angen i fusnesau fod wedi cofrestru gyda’u hawdurdod lleol ym mis Hydref neu’n ddiweddarach er mwyn cael y taliadau, mae Llywodraeth Cymru yn annog cwmnïau sydd heb wneud hynny eto i weithredu ’nawr fel nad ydynt yn colli cyfle.

O dan y pecyn cymorth, byddai gan fusnesau cymwys sydd â gwerth ardrethol o lai na £12,000, megis busnesau bach trin gwallt neu werthu blodau, hawl i gael £6,000 ar gyfer y cyfnod rhwng mis Rhagfyr a mis Mawrth.

Byddai gan gwmnïau sydd â gwerth ardrethol o dan £150,000, er enghraifft siop ddillad, bwyty neu gampfa, hawl i £10,000 am yr un cyfnod. Diben yr arian hwn yw rhoi help llaw i dalu costau fel rhent, cyfleustodau ac yswiriant.

Mae’r cyllid hwn yn ychwanegol at y cymorth gwerth £180 miliwn sydd ar gael o gronfa Llywodraeth Cymru ar gyfer sectorau penodol: busnesau twristiaeth, twristiaeth a lletygarwch. Daeth dros 8,000 o geisiadau i law cyn i’r gronfa honno gau, yn ôl y bwriad, ar 29 Ionawr. Mae hefyd yn ychwanegol at y cymorth incwm a gynigir gan Lywodraeth y DU fel y Cynllun Cadw Swyddi a’r Cynllun Cymorth i’r Hunangyflogedig.

Os yw busnesau wedi cael taliad drwy eu hawdurdod lleol ers y cyfnod atal byr ym mis Hydref, nid oes angen iddyn nhw gymryd unrhyw gamau pellach.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod miloedd o fusnesau cymwys sydd heb gofrestru eto ar gyfer y cymorth hwn.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates: “Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn hanfodol er mwyn diogelu busnesau a swyddi ledled Cymru.

“Ers dechrau’r pandemig, rydyn ni wedi sicrhau bod mwy na £1.75 biliwn wedi cyrraedd cyfrifon banciau busnesau i’w helpu i fynd i’r afael â’r effaith economaidd mae’r coronafeirws yn parhau i’w chael.

“Dylai cwmnïau cymwys sy’n talu ardrethi annomestig ac sydd wedi cofrestru gyda’u hawdurdod lleol ers y cyfnod atal byr ym mis Hydref gael rhagor o gymorth yn awtomatig, felly does dim angen iddyn nhw weithredu. Fodd bynnag, gwyddom fod gormod o gwmnïau heb gofrestru eto. Hoffwn annog perchnogion y busnesau hynny i weithredu’n awr er mwyn iddyn nhw allu cael yr hyn y mae ganddyn nhw’r hawl iddo.

“Bydd yr arian hwn yn gwbl hanfodol er mwyn helpu cwmnïau ar hyd a lled y wlad yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn. Dydyn ni ddim am i unrhyw fusnes golli cyfle na mynd dan y don oherwydd iddo beidio â gweithredu, felly os ydych chi’n talu ardrethi annomestig ond heb gofrestru gyda’ch awdurdod lleol ers cyn y cyfnod atal byr ym mis Hydref, gwnewch hynny ’nawr.”

Os nad yw busnesau wedi cofrestru gyda’u hawdurdodau lleol ers y cyfnod atal byr ym mis Hydref, dylent droi at wefan Busnes Cymru i gael rhagor o wybodaeth am wneud hynny − https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy/grant-ardrethi-annomestig-y-gronfa-i-fusnesau-dan-gyfyngiadau-symud-awdurdodau-lleol 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle