Cyfleusterau newydd ar gyfer babanod gofal arbennig ar y gorwel

0
315

Mae’r gwaith ar gyfleusterau newyddenedigol newydd yn Ysbyty Glangwili, rhan o welliannau mamolaeth o £25.2 miliwn yn yr ysbyty, wedi parhau trwy gydol y pandemig gyda’r Uned Gofal Arbennig Babanod newydd i agor yn ddiweddarach eleni

Bydd ail gam y datblygiad yn darparu amgylchedd modern i fabanod a theuluoedd yn yr ysbyty. Bydd yr uned yn cynnwys ystafell deulu ac ystafelloedd aros dros nos en suite ar gyfer teuluoedd y mae eu babanod yn derbyn gofal yn yr uned.

Cwblhawyd gwaith adeiladu i greu Ward Eni newydd yn gynharach eleni, a symudodd yr Uned Gofal Arbennig Babanod i’r ardal hon dros dro tra bod y gofod presennol yn cael ei drawsnewid yn uned newydd well.

Mae tîm y prosiect wedi bod yn ymgysylltu â staff a chleifion trwy gydol yr adeiladu, gan ymgynghori ar bob agwedd gan gynnwys gosodiadau a ffitiadau. Yn fwyaf diweddar mae’r tîm wedi gweithio gyda staff ar elfennau dylunio, megis cynlluniau lliw a gwaith celf ar gyfer y waliau, a fydd yn creu amgylchedd tawel a chroesawgar.

Dywedodd Lisa Humphrey, Rheolwr Cyffredinol Dros Dro i Fenywod a Phlant, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn hynod falch bod gwaith wedi gallu parhau ar y safle, gan ddarparu cyfleusterau llawer gwell i fabanod, mamau a theuluoedd.

“O ystyried y pandemig byd-eang, mae’r prosiect ychydig ar ei hôl hi, fodd bynnag, rydym am sicrhau staff a’r cyhoedd bod gwaith yn parhau ar gyflymder sy’n ddiogel i wneud hynny.

“Hoffem ddiolch i staff, cleifion ac ymwelwyr am eu hamynedd yn ystod cyfnod y gwelliannau sylweddol hyn.”

I gael y newyddion diweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ewch i https://hduhb.nhs.wales/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle