Glaswellt cynnar tymor 2021

0
299

Ysgrifennwyd gan Chris Duller, Ymgynghorydd Glaswelltir ar ran Cyswllt Ffermio.

Mae Chris Duller yn ymgynghorydd annibynnol sy’n arbenigo mewn rhoi cyngor ar ddulliau rheoli pridd a glaswelltir ar draws yr holl sectorau da byw.

Wrth i ni symud drwy fis Chwefror bydd y dyddiau’n ymestyn, ac mae mwy o botensial i’r glaswellt dyfu a chyfle i ddefnyddio maetholion gwrtaith cyffredin i annog tyfiant cynnar y tymor. Mae gweld glaswellt cynnar yn atyniad mawr bob amser, ac mae llawer o fuddion i’w cael – yn ariannol ac o ran llafur – o droi anifeiliaid allan yn gynnar. 

Y broblem fwyaf wrth ddefnyddio maetholion yn gynnar yn y tymor yw’r ansicrwydd. Er y gall mis Chwefror fod yn fwyn, does neb yn gwybod sut dywydd a gawn ym mis Mawrth a dechrau mis Ebrill. Mae’n hawdd iawn gwastraffu’r buddsoddiad o wasgaru gwrtaith yn gynnar yn y tymor, naill ai drwy golli maetholion neu oherwydd nad oes defnydd llawn yn cael ei wneud o’r glaswellt.

Yr her i bawb yw rheoli’r risgiau – gwneud y mwyaf o’r elw ar unrhyw fuddsoddiad a lleihau’r colledion. 

1)     Amseru. 

Pan fyddwch yn mentro allan gyda gwrteithiau nitrogen (N), mae’n rhaid cadw golwg ar amodau’r pridd a’r tywydd (ar y diwrnod, a’r rhagolygon). Dylai tymheredd y pridd fod yn uwch na 5oC am rai dyddiau cyn gwasgaru gwrtaith. Ar dymheredd o 5oC, bydd y glaswellt yn dechrau tyfu ac mae’r bacteria yn y pridd yn weithgar; bydd hyn yn creu galw am faetholion ac yn cynnig rhwyd ddiogelwch bosibl i ddal a chadw’r nitrogen. Mae angen i’r pridd fod yn ddigon sych fel na fydd traffig yn ei ddifrodi ac mae rhagolygon am ddau neu dri o ddiwrnodau sych yn hanfodol.

2)     Dewisiadau o ran gwrtaith. 

Yn bersonol, rwyf yn dal i ffafrio defnyddio wrea ar y tir yn gynnar yn y tymor pan mae’r tymheredd yn isel a’r pridd yn debygol o fod yn agos at gapasiti’r cae. O dan yr amodau hyn, mae risg uchel y bydd nitrogen yn cael ei golli ar ffurf amoniwm nitrad yn sgil trwytholchi. Roedd y llynedd yn gyfnod anodd i ddefnyddwyr wrea oherwydd yr amodau cynnes, heulog a oedd yn annog colli amonia. Yn ddelfrydol, dylech brynu wrea sy’n cynnwys atalydd i leihau colledion. Gall gostio £35 y dunnell yn ychwanegol – ond bydd yn lleihau’r risgiau yn sylweddol. 

Mae ffynhonnell o ffosffad (P) sydd ar gael yn rhwydd yn hanfodol er mwyn i wreiddiau dyfu yn gynnar yn y tymor. Felly, os ydych yn defnyddio ffosffad ar gaeau ag indecs isel (0, 1 a phen isaf indecs 2) yna byddai cynnyrch NP fel 25:10:0 yn cael ei argymell (er bod cyflenwadau yn gyfyngedig). 

Beth am sylffwr? Mae data cadarn ar gael sy’n cefnogi’r dull o ddefnyddio sylffwr i wella cymeriant nitrogen.

3)     Cyfraddau gwasgaru’r gwrtaith.

O safbwynt cyfraddau gwasgaru’r gwrtaith, y cynharaf y byddwch yn ei ddefnyddio, y mwyaf yw’r risgiau, felly dylech gadw cyfraddau gwasgaru o dan 25kgN/ha (20uned/acer) ar ddechrau mis Chwefror. Gallech gynyddu’r gyfradd i 30kgN/ha erbyn diwedd y mis ac ar ddechrau mis Mawrth. Cofiwch fod y cyfraddau ymateb yn debygol o fod yn llai na 15kg glaswellt i’r deunydd sych/kgN a gaiff ei wasgaru. Dangosodd astudiaeth ymchwil yn Iwerddon mai 21% yn unig o’r N a wasgarwyd yn gynnar yn y tymor a adenillwyd gan laswellt.

4)     Dewis y cae.

Yn fy marn i, un o’r penderfyniadau pwysicaf yw dewis cae addas ar gyfer gwasgaru N yn gynnar yn y tymor. Dylech bob amser feddwl am leihau’r risgiau a gwneud y mwyaf o’r ymateb. Dylech osgoi hen wyndonnydd â lefelau rhygwellt isel, llethrau sy’n wynebu’r gogledd, caeau sydd wedi profi’n isel o ran pH, priddoedd trwm ac unrhyw gae lle mae problem o ran cywasgu. Gall y rhain aros am ychydig wythnosau pan fydd y risgiau yn is. Peidiwch â defnyddio gwrtaith ar dir heb lawer o orchudd glaswellt, yn enwedig yn achos wrea. Mae gorchudd glaswellt yn helpu i amddiffyn y tir rhag dŵr ffo ac anweddolrwydd  – ac mae màs gwreiddiau a chymeriant N yn debygol o fod yn fwy os oes gennych fwy o ddail. Mae ardaloedd byffer yn bwysicach nag erioed wrth ddefnyddio N yn gynnar yn y tymor – a chadwch yn ddigon pell o gyrsiau dŵr, o leiaf 5m i ffwrdd.

Yn fyr, y cyngor wrth defnyddio gwrtaith N yn gynnar yn y tymor yw byddwch yn ofalus, cadwch y cyfraddau yn isel, dewiswch y cynnyrch cywir a’r caeau cywir – a gwrandewch ar y proffwydi tywydd.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle