Lansio ChatHealth mewn tair sir

0
400

Mae Tîm Cyswllt Ieuenctid Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mewn cydweithrediad â thimau nyrsio ysgolion, wedi lansio gwasanaeth newydd i gefnogi pobl ifanc 11-19 oed.

Mae ChatHealth yn wasanaeth neges destun sydd bellach yn gweithredu ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Bydd yn caniatáu i bobl ifanc anfon neges destun at linell gymorth a chael cefnogaeth gyfrinachol gan dîm o nyrsys cymwys. Gall y gwasanaeth gefnogi pobl ifanc gydag ystod o faterion, o iechyd a llesiant emosiynol, gan gynnwys pryder, dicter, hwyliau isel a pyliau o banig, i berthnasoedd, hunan-niweidio, bwlio, iechyd rhywiol, alcohol, ysmygu a chyffuriau.

Dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, bydd y Tîm Cyswllt Ieuenctid yn gweithio gydag ysgolion, colegau ac asiantaethau ehangach i hyrwyddo’r gwasanaeth a chyrraedd cymaint o bobl ifanc â phosibl.

Dywedodd Judith Thomas, Nyrs Cyswllt Ieuenctid ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Ar hyn o bryd mae’r gwasanaeth ChatHealth yn gweithredu ar draws nifer o feysydd yn Lloegr, ond ni yw’r unig Fwrdd iechyd yng Nghymru i gyflwyno’r gwasanaeth.

“Rydyn ni’n gwybod bod pobl ifanc yn wynebu llawer o bwysau, yn enwedig gydag ysgolion ar gau a’r cyfyngiadau cloi ehangach. Maent yn fwy tebygol o fod yn teimlo’n ynysig ac yn agored i niwed. Rydyn ni am iddyn nhw wybod bod cefnogaeth yno iddynt.

“Mantais y gwasanaeth testun hwn yw’r gallu i gyrraedd pobl ifanc sy’n teimlo’n fwy cyfforddus yn gofyn am help trwy negeseuon. Rydym hefyd yn gwybod bod pobl ifanc yn canfod bod negeseuon yn ddull haws o siarad am faterion sensitif, fel iechyd meddwl. “

Dylai unrhyw berson ifanc sydd angen cyngor, arweiniad neu gefnogaeth, gysylltu â’r rhif perthnasol isod yn seiliedig ar ble maen nhw’n byw. Mae’r gwasanaeth yn gyfrinachol ac yn anhysbys:

  • Sir Gaerfyrddin – 07507 327126
  • Ceredigion – 07480 635948
  • Sir Benfro – 07507 327088

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle