Swyddogion Heddlu Dyfed-Powys yn dathlu cwblhau rhaglen gyntaf o’i math gyda Phrifysgol De Cymru

0
330

MAE grŵp o wyth swyddog Heddlu Dyfed-Powys yn dathlu dod y rhai cyntaf yng Nghymru a Lloegr i gwblhau diploma i raddedigion newydd mewn plismona.

Mae’r Cwnstabliaid yn nodi diwedd y Diploma Proffesiynol Ymarfer Plismona i Raddedigion ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) gyda digwyddiad dathlu rhithiol ar ddydd Gwener y 5ed o Chwefror. Bydd graddio ffurfiol traddodiadol yn digwydd unwaith i’r cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol gael eu codi a phan fydd hi’n ddiogel dathlu gyda’n gilydd.

Yn dilyn profiad oedd yn cyfuno darlithoedd prifysgol a dysgu academaidd gyda bywyd ar y bît, y swyddogion hyn yw’r rhai cyntaf yng Nghymru a Lloegr i gwblhau’r Rhaglen Fynediad i Raddedigion ac ennill Diploma Proffesiynol Ymarfer Plismona i Raddedigion.

Gyda chefndiroedd yn amrywio o reoli chwaraeon i droseddeg a bioleg, mae’r swyddogion nawr wedi eu lleoli ar draws yr heddlu fel swyddogion heddlu trwyddedig llawn yn ymateb i alwadau ac yn ymchwilio i ddigwyddiadau.

Meddai’r Uwcharolygydd Ross Evans, arweinydd yr Heddlu ar Ddysgu a Datblygu: “Mae’r digwyddiad hwn yn nodi diwedd dwy flynedd o waith caled gan ein myfyrwyr, sef y swyddogion heddlu cyntaf yng Nghymru a Lloegr i gwblhau’r cwrs Rhaglen Fynediad i Raddedigion.

“Maent nid yn unig wedi bod y garfan gyntaf i gyfuno profiadau plismona go iawn allan yn y rhanbarthau gyda dysgu academaidd, ond maent wedi llwyddo i gyflawni hyn wrth ymateb i newidiadau a heriau a godwyd gan y pandemig Covid-19.

“Does gen i ddim amheuaeth y bydd elfennau theori ac ymarfer y diploma, ynghyd â’r gefnogaeth gan Brifysgol De Cymru a’n hadran dysgu a datblygu mewnol ni, wedi eu rhoi mewn safle da wrth iddynt wrth iddynt gychwyn o ddifrif ar eu gyrfaoedd gyda Heddlu Dyfed-Powys.”

Mae’r Rhaglen Fynediad i Raddedigion yn rhan o’r Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona (FfCAP/PEQF) ac mae’n ddiploma ddwy flynedd i raddedigion.

Mae Heddlu Dyfed-Powys a Phrifysgol De Cymru’n gweithio ar y cyd i drosglwyddo rhaglenni mynediad cychwynnol FfACP i’r holl recriwtiaid swyddogion heddlu newydd, boed hynny drwy’r Rhaglen Fynediad i Raddedigion neu’r Radd-brentisiaeth Cwnstabliaid yr Heddlu, ac maent yn cefnogi myfyrwyr yn academaidd ac yn alwedigaethol.

O ddiwrnod cyntaf y cwrs, daeth y grŵp yn swyddogion heddlu mewn gwasanaeth a hefyd yn fyfyrwyr PDC. Enillodd y myfyrwyr-swyddogion statws patrôl unigol erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf, ac roedd gofyn iddynt gwblhau’r Portffolio Cymhwysedd Gweithredol erbyn diwedd yr ail flwyddyn.

Ychwanegodd Yr Uwcharolygydd Evans: “Y mae hwn yn ymagwedd newydd tuag at hyfforddiant yr heddlu, ac un rydym wedi ei groesawu a’i fewnblannu yn Nyfed-Powys.

“Mae’r Cwnstabliaid o’r cwrs hwn eisoes yn pasio eu dysgu ymlaen i’r garfan nesaf o swyddogion, ac rydym yn hyderus y bydd eu sgiliau a’u profiad unigryw’n cyfoethogi’r heddlu a’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu i’n cymunedau.

“Mae fy niolch i’r swyddogion eu hunain, sydd wedi dangos ymroddiad ac ymrwymiad i’w gwaith prifysgol ac i’w dyletswyddau plismona, a hefyd i’w teuluoedd a’u ffrindiau am eu cefnogaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf.”

Meddai Peter Vaughan QPM, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ryngwladol Plismona a Diogelwch ym Mhrifysgol De Cymru: “Rydym yn eithriadol o falch o fod wedi partneru gyda Heddlu Dyfed-Powys ac i fod yn dathlu’r cyflawniad sylweddol hwn gyda graddedigion ein rhaglen Ymarfer Plismona cyntaf.

“Mae llongyfarch y swyddogion-fyfyrwyr hyn o Heddlu Dyfed-Powys ar ddod y rhai cyntaf yng Nghymru a Lloegr i ennill eu Diploma i Raddedigion dan y Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona yn achlysur pwysig i ni i gyd ac rydym yn gobeithio’n fawr eu bod wedi mwynhau astudio gyda ni cymaint ag yr ydym ni wedi mwynhau eu dysgu nhw.

“Mae proffesiynoli’r addysg a ddarparir i’r rhai hynny sy’n ymuno â gwasanaeth yr heddlu ar reng cwnstabl yn fwriad sylfaenol y Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona ac rydym yn falch o fod yn cyfrannu at yr ymdrech pwysig hwn gyda’n partneriaid yn Heddlu Dyfed-Powys.”

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, “Hoffwn longyfarch yr wyth a raddiodd am eu llwyddiant arbennig o ran ennill y cymhwyster newydd ac arloesol hwn.

“Mae ennill cymhwyster lle mae’r dulliau astudio’n cynnwys cyfuniad o brofiad allan ar y bît, yn ogystal â mewnbwn academaidd gam dîm Dysgu a Datblygu Heddlu Dyfed-Powys a darlithwyr ym Mhrifysgol De Cymru, yn rhoi sylfaen ardderchog ar gyfer datblygu gyrfa lwyddiannus mewn plismona, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r wyth a raddiodd yma yn Nyfed- Powys, a, gobeithio, gweld eu gyrfaoedd yn datblygu ymhellach.”

Dywedodd Jo Noakes, Cyfarwyddwr Datblygu’r Gweithlu yn y Coleg Plismona: “Mae’n dda gan y Coleg longyfarch wyth cwnstabl heddlu newydd Heddlu Dyfed-Powys ar gwblhau’r Rhaglen Fynediad ar gyfer Graddedigion. Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol o ran mabwysiadau llwybrau mynediad cychwynnol newydd i blismona gan mai nhw yw’r cyntaf yng Nghymru a Lloegr i gwblhau unrhyw un o’r rhaglenni newydd ar gyfer cwnstabliaid heddlu.

“Hoffem ganmol Heddlu Dyfed-Powys ar ei ymagwedd frwdfrydig a chadarnhaol tuag at yr her o ddod â’r rhaglenni dysgu newydd yn fyw. Mae hon yn gamp aruthrol, yn enwedig yng nghyd-destun rhaglen ymgodiad genedlaethol yr heddlu a chyfyngiadau’r pandemig COVID-19.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle