Defnyddiwch eich doniau creadigol ac ymunwch â Pharêd y Ddraig Ddigidol Oriel y Parc

0
362

Mae Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn gwahodd pobl o bob oed a gallu i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn rhithiol eleni drwy ‘Dynnu Llun Draig’ a rhannu eu lluniau drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

Mae Oriel y Parc yn gosod her ichi dynnu llun a chreu Draig Ddydd Gŵyl Dewi arbennig ar gyfer Parêd y Ddraig Ddigidol ar ddydd Llun 1 Mawrth, i ddathlu nawddsant y genedl ar y cyfryngau cymdeithasol mewn dathliad cadarnhaol o bopeth Cymreig.

Meddai Rheolwr Oriel y Parc, Claire Bates: “A hithau yn ninas Tyddewi yn Sir Benfro, byddai Oriel y Parc fel arfer yn dathlu’r diwrnod arbennig drwy drefnu Gorymdaith y Ddraig drwy’r ddinas. Mae plant ysgol lleol a grwpiau cymunedol fel arfer yn gorymdeithio drwy’r strydoedd gyda dreigiau wedi’u creu’n arbennig a band.

“Oherwydd cyfyngiadau Covid-19, nid yw hyn yn bosibl eleni, felly mae Oriel y Parc yn annog pobl i aros gartref, dylunio draig a dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn ddigidol.”

Rhannwch eich creadigaethau ag Oriel y Parc ar y cyfryngau cymdeithasol ar 1 Mawrth gan ddefnyddio’r hashnod ‘Parêd y Ddraig’ drwy:

Fel arall, anfonwch lun o’ch draig dros yr e-bost i: info@orielyparc.co.uk a bydd Oriel y Parc yn eu cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol.

I gael rhagor o wybodaeth am Oriel y Parc ewch i www.orielyparc.co.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle