Annog y cyhoedd i osgoi’r Preseli gan fod disgwyl rhagor o eira

0
328

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Heddlu Dyfed-Powys a Chyngor Sir Penfro yn annog pobl i aros gartref ac osgoi teithio i’r Preseli gyda mwy o eira ar y ffordd yn y dyddiau nesaf.

Mae’r cyfyngiadau lefel 4 yn weithredol yng Nghymru ar hyn o bryd a golyga hyn y dylai pobl yn aros gartref a pheidio â theithio heb esgus rhesymol. Dylai ymarfer corff ddechrau a gorffen gartref ac ni chewch yrru i leoliad oddi cartref i’r diben hwn, oni bai fod angen i chi wneud hynny oherwydd problemau iechyd neu symudedd penodol.

Meddai Richard Vaughan, Parcmon Ardal y Gogledd Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Yn barod eleni, mae cannoedd o bobl wedi dod i’r Preseli ar ôl iddi fwrw eira. Er gwaetha’r ffaith na ddylent fod wedi bod yno yn y lle cyntaf, roedd pobl yn tresmasu ar dir preifat, yn cynnwys caeau lle roedd da byw, ac yn gadael sbwriel ar ôl i rywun arall ei gasglu.

“Bydd digon o gyfleoedd i fwynhau’r eira ar y Preseli ar ôl codi’r cyfyngiadau, ond am nawr, arhoswch gartref a diogelu eich gilydd, y gwasanaethau brys a’n cymunedau amaethyddol.”

Ychwanegodd Anthony Evans, Uwch-arolygydd Is-adran Sir Benfro: “Rydyn ni’n deall bod hwn yn gyfnod anodd iawn i bawb, a bod mannau prydferth fel Mynyddoedd y Preseli yn denu, yn enwedig gyda’r rhagolygon o eira. Ond mae rheswm da iawn dros y cyfyngiadau lefel pedwar a’r gofyniad i aros gartref.

“Mae hi wedi bod yn siom i swyddogion sy’n cynnal patrolau amlwg mewn ardaloedd fel hyn, pan maent wedi gweld cannoedd o gerbydau, a rhai ohonynt wedi teithio cryn bellter hefyd. Rhaid i mi bwysleisio bod gan bawb gyfrifoldeb personol i gadw at gyfyngiadau teithio hanfodol Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd oherwydd y risgiau. Pan fydd ymgysylltu â phobl yn methu, bydd hysbysiadau cosb benodedig yn cael eu rhoi mewn achosion amlwg o dorri’r cyfyngiadau.”

Meddai’r Cynghorydd Phil Baker, Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Seilwaith: “Dydy teithio i’r Preseli neu i unrhyw le arall ar ôl eira ddim yn hanfodol, dim ots pa mor atyniadol ydy hynny. Mae gyrru pan fo rhew ar y ffordd hefyd yn gwneud damweiniau yn llawer mwy tebygol ar adeg pan mae ein gwasanaethau iechyd eisoes dan bwysau.

“Yn ystod yr eira a’r tywydd rhewllyd, bydd ein timau Cynnal a Chadw dros y Gaeaf yn brysur yn graeanu ffyrdd ac mae parcio anystyriol hefyd yn ei gwneud yn anoddach o lawer iddynt wneud y gwaith pwysig hwnnw.

“Byddwch yn gyfrifol a cadwch chi eich hun a’ch teulu’n ddiogel drwy aros gartref a pheidio â rhoi pobl eraill mewn perygl os byddwch yn torri i lawr neu os bydd angen i chi gael eich achub.” 

I gael manylion llawn am yr hyn y gallwch ac na allwch ei wneud dan gyfyngiadau Hysbysiad Lefel 4 Llywodraeth Cymru, ewch i https://llyw.cymru/lefel-rhybudd-4.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol am covid-19, ewch i https://www.arfordirpenfro.cymru/coronafeirws/.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle