Cyfanswm codi arian Gwyllt am Goetiroedd yn parhau i dyfu

0
281

Mae apêl codi arian sy’n anelu at blannu a diogelu 1,000 o goed ar draws Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cyrraedd carreg filltir bwysig tuag at ei tharged o £10,000.

Bydd apêl Gwyllt am Goetiroedd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn helpu i greu coridorau coetiroedd newydd er mwyn helpu bywyd gwyllt i dyfu ac i ffynnu.

Mae dros £4,000 wedi’i godi hyd yma a hynny gyda help Millie Marotta, darlunydd llwyddiannus, sy’n darparu taflen liwio arbennig i bawb sy’n cyfrannu.

Dywedodd Elsa Davies LVO, cadeirydd yr elusen: “Mae coed yn chwarae rôl hollbwysig yn gwrthbwyso ein hôl troed carbon a’r effaith niweidiol rydyn ni fel pobl wedi’i chael ar ein tirwedd werthfawr, ac maen nhw hefyd yn gallu cael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd a’n lles.

“Rydyn ni’n ddiolchgar dros ben i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yma a hoffai’r Ymddiriedolaeth ddiolch i’r Greener Camping Club a’i aelodau, sydd wedi cyfrannu 250 o goed sy’n tarddu o’r ardal leol at y prosiect.”

Gallai rhodd o £5 yn unig helpu i dalu am blannu a gofalu am goeden newydd, a gallai cyfraniad o £100 helpu i greu 100m2 o goetir newydd.

Mae Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn elusen sydd wedi’i chofrestru gan Gomisiwn Elusennau’r DU. Rhif cofrestru’r elusen yw 1179281.

I gyfrannu ar-lein a chael rhagor o wybodaeth am bartneriaeth yr Ymddiriedolaeth â Millie Marotta, ewch i: https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/sut-gallwch-chi-helpu/gwyllt-am-goetiroedd/


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle