Cyfrifiad 2021 – Sicrhau bod y penderfyniadau mawr yn seiliedig ar y wybodaeth orau

0
299

Bydd Cyfrifiad 2021 yn allweddol i sicrhau bod y penderfyniadau mawr am ddyfodol ein hysbytai, ysgolion, trafnidiaeth a gwasanaethau cyhoeddus eraill, yn dilyn y pandemig ac ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, yn seiliedig ar y wybodaeth orau bosibl.

Arolwg a gaiff ei gynnal unwaith bob degawd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yw’r cyfrifiad – a gynhelir ar 21 Mawrth – sy’n rhoi’r amcangyfrif mwyaf cywir o’r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr.

Yn ogystal â llunio darlun newydd o faint pob cymuned, bydd y cyfrifiad digidol yn gyntaf hefyd yn taflu goleuni ar y newidiadau iechyd, cymdeithasol ac economaidd i’n bywydau.

“Ar ôl blynyddoedd o gynllunio, mae’r cyfrifiad bron yma,” dywedodd Pete Benton, cyfarwyddwr gweithrediadau’r cyfrifiad. “Dros y diwrnodau a’r wythnosau nesaf, byddwch yn clywed mwy a mwy ynghylch pam mae’r cyfrifiad mor bwysig, pam mae’n rhaid i chi gymryd rhan ac, yn hollbwysig, sut y gallwch chi gymryd rhan. Cyn bo hir, bydd pob cartref yn cael cerdyn post, yn egluro beth yw’r cyfrifiad, ac ar ddechrau mis Mawrth bydd llythyrau yn cyrraedd yn y post yn gwahodd pobl i gymryd rhan yn y cyfrifiad digidol yn gyntaf.

“Yn sgil pandemig y coronafeirws, mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni’n cael y wybodaeth ddiweddaraf hon er mwyn helpu i lywio gwasanaethau hanfodol ar gyfer y blynyddoedd i ddod, ac rydym ni’n gwneud yn siŵr y gall pawb gael eu cyfrif yn ddiogel yn unol â chanllawiau’r llywodraeth.

“Rydym ni wedi’i gwneud hi’n syml ac yn ddiogel i gymryd rhan. Dim ond 10 munud fesul unigolyn mae’n ei gymryd i lenwi eich ffurflen chi, ac os na allwch chi fynd ar lein, bydd ffurflenni papur ar gael i’r rhai sydd eu hangen nhw, yn ogystal â llawer o gymorth. Nawr yw’r amser i chi adael eich ôl ar hanes.”

Wrth reswm, mae cynnal y cyfrifiad yn ystod pandemig yn heriol, a diogelwch y cyhoedd sydd bwysicaf i SYG.

“Rydym ni am i bawb gael eu cyfrif yn ddiogel, ac rydym ni’n gwneud yn siŵr bod ein cynlluniau bob amser yn unol â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth,” dywedodd Pete.

“Dim ond os na fydd deiliaid cartrefi wedi llenwi eu holiaduron nhw y bydd swyddogion maes y cyfrifiad yn cynnal ymweliadau dilynol â chartrefi ar ôl Diwrnod y Cyfrifiad ar 21 Mawrth. Ni fyddan nhw byth yn mynd i mewn i gartref, byddan nhw bob amser yn cadw pellter cymdeithasol, yn gwisgo cyfarpar diogelu personol ac yn gweithio yn unol â holl ganllawiau’r llywodraeth.”

Hefyd, diweddarwyd y canllawiau ar gyfer rhai cwestiynau i adlewyrchu ein ffordd newydd o fyw a gweithio.

Ychwanegodd Pete: “I’r rhai sydd ar ffyrlo, rydym ni wedi diweddaru’r canllawiau ar sut i ateb cwestiynau am waith. Mae angen i bob myfyriwr gael ei gynnwys yn y cyfrifiad, a dylai ei gwblhau ar gyfer ei gyfeiriad arferol yn ystod y tymor. Os yw’n byw gartref ar hyn o bryd, bydd angen ei gynnwys yn y cyfrifiad ar gyfer y cartref hwnnw hefyd.”

Am y tro cyntaf, bydd cwestiwn yn gofyn i bobl a ydynt wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, yn ogystal â chwestiynau gwirfoddol i’r rhai sy’n 16 oed a throsodd am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd.

Bydd y canlyniadau cyntaf ar gael o fewn 12 mis, ond caiff cofnodion personol eu cadw’n ddiogel am 100 mlynedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i cyfrifiad.gov.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle