Trafnidiaeth Cymru yn darparu gorsaf newydd Bow Street

0
299

Mae’n bleser gan Trafnidiaeth Cymru gyhoeddi agor gorsaf newydd Bow Street.

Roedd y trên cyntaf wedi stopio yn yr orsaf yng Ngheredigion, canolbarth Cymru, am 9.12am ddydd Sul 14 Chwefror, gan ddarparu cysylltiad â’r rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol i gymuned Bow Street am y tro cyntaf ers i’r hen orsaf gael ei chau yn 1965.

Dyma’r orsaf gyntaf i gael ei hagor yng Nghymru ers Pye Corner ym mis Rhagfyr 2014 a dyma’r orsaf gyntaf i Trafnidiaeth Cymru ei hagor ers dod yn gyfrifol am fasnachfraint rhwydwaith Cymru a’r Gororau yn 2018.

Mae’r datblygiad wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Adran Drafnidiaeth, a nodwyd yn gyntaf yn 2010 fel cyfle a oedd yn cynnig gwerth am arian ac sydd â chefnogaeth leol gref.

Disgwylir y bydd yr orsaf newydd yn creu dros 30,000 o deithiau newydd bob blwyddyn (ar sail lefelau cyn COVID), yn lleihau tagfeydd a phroblemau parcio yn Aberystwyth, ar yr un pryd â chreu cyfleoedd cyflogaeth ac addysg newydd i drigolion lleol.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Mae hyn yn newyddion gwych i deithwyr ac i’r ardal leol. Bydd yr orsaf yn dod â manteision cymdeithasol ac economaidd i’r ardal, a fydd, ochr yn ochr â’r llwybrau teithio llesol cyfagos, yn ei gwneud yn haws i bobl deithio mewn ffordd gynaliadwy.

“Mae’r cyllid rydyn ni wedi’i ddarparu yn arwydd o’n hymrwymiad parhaus i wella’r rheilffyrdd yng Nghymru a rhoi mwy o ddewis i deithwyr.”

Dywedodd Chris Heaton-Harris, Gweinidog Rheilffyrdd Llywodraeth y DU: “Mae’n wych bod cysylltiadau rheilffyrdd hanfodol wedi cael eu hadfer ar gyfer cymuned Bow Street am y tro cyntaf ers dros 50 mlynedd.

“Mae ein buddsoddiad mewn gorsafoedd newydd yn canolbwyntio ar wella teithiau, rhoi hwb i fynediad at swyddi ac at addysg a sbarduno twf economaidd wrth i ni ddod yn ôl yn gryfach ar ôl Covid-19.”

Bydd yr orsaf yn cael ei gwasanaethu gan drenau ar Reilffordd y Cambrian rhwng Aberystwyth ac Amwythig ac o 2022 ymlaen bydd yn elwa o gyflwyno trenau newydd sbon a gwasanaeth bob awr o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru: “Mae cwblhau’r orsaf newydd gyntaf ers dod yn gyfrifol am wasanaethau rheilffyrdd Cymru a’r Gororau yn garreg filltir gyffrous a phwysig i ni.”

“Mae’n brawf o sgiliau a gwaith caled ein timau eu bod wedi gallu cyflawni’r orsaf newydd hon er gwaethaf yr heriau a achoswyd gan bandemig COVID-19 dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Ar hyn o bryd mae trafnidiaeth gyhoeddus ar agor i’r rheini sy’n gwneud teithiau hanfodol yn unig, ond rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu trigolion ac ymwelwyr i Bow Street pan fydd y cyfyngiadau’n newid a phan fydd hi’n ddiogel gwneud hynny.”

Mae Bow Street yn cynnwys un platfform 100m o hyd gyda lloches aros i deithwyr, pwynt gwybodaeth amser real a pheiriant tocynnau.

Mae hefyd yn cynnwys maes parcio parcio-a-theithio gyda lle i 70 o geir a phwynt codi a gollwng, mynediad at lwybrau beicio lleol a lloches dan do i feiciau. Mae mynediad hwylus i’r orsaf yn sgil y gwelliannau i gyffordd bresennol yr A415 â’r A487(T).

Dywedodd Bill Kelly, cyfarwyddwr llwybrau Network Rail yng Nghymru: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu cefnogi TrC i ddatblygu a darparu gorsaf newydd Bow Street.

“Bydd yn cael effaith gadarnhaol iawn ar y gymuned leol a’r rhanbarth ehangach gan y bydd yn haws nag erioed i bobl gysylltu â chyflogaeth, addysg, iechyd a gwasanaethau hanfodol eraill.”

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, Aelod Cabinet Cyngor Ceredigion ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, Tai a Chyswllt Cwsmeriaid: “Ar ran Cyngor Sir Ceredigion, rwy’n falch iawn bod Trafnidiaeth Cymru bellach wedi cwblhau’r Gyfnewidfa Drafnidiaeth Gyhoeddus newydd yn Bow Street.

“Ni fyddai dim o hyn wedi digwydd heb weledigaeth, gwaith caled ac ymroddiad nifer o unigolion a sefydliadau yn gweithio gyda’i gilydd dros y 10 mlynedd diwethaf ar y prosiect hwn. Yn ddiau mae hwn yn gam mawr ymlaen i Geredigion a Chanolbarth Cymru – bydd y Gyfnewidfa yn rhoi hwb mawr ei angen i’r economi leol ac yn helpu i wella’r cyfleoedd teithio cynaliadwy sydd ar gael fel rhan o’n hymdrechion i ddatgarboneiddio’r sector trafnidiaeth.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle