Ceredigion NHS fundraiser update – total raised over £1,050

0
557
Keith family

Am gyflawniad gwych gan Keith Henson o Nebo. Mae ei ddigwyddiad codi arian rhithwir wedi codi dros £1,050 ar gyfer Elusennau Iechyd Hywel Dda.

Cafodd Keith ei ysbrydoli gan ei fab 13 oed, Siôn, i sefydlu her codi arian er budd ei Wasanaeth Diabetes lleol, a oedd yn golygu mynd yn oer a gwlyb iawn!

Yn ddiabetig math 1, ac yn cysgodi ar hyn o bryd oherwydd bod ganddo Ddiffyg Imiwnedd Amrywiol Cyffredin, penderfynodd Keith ganu Calenning mewn caiac yn ei ardd, yn ystod eira, tra bod bwcedi o ddŵr yn cael eu taflu ato.

Keith family

Meddai Keith: “Mae’n wych gweld sut mae pobl wedi cyfrannu at wasanaethau arbennig yng Ngheredigion trwy wneud rhywbeth syml a hwyliog ar Ddydd Calan. Roedd yn cadw traddodiad Canu Calenning yn fyw ac yn sicrhau ein bod yn mwynhau’r amodau gaeafol yn y pentref wrth ganiatáu i bobl gael hwyl. Fe wnaethon ni osod targed o £100, gan feddwl os ydyn ni’n cael hynny bydden ni wedi gwneud yn dda iawn. Mae cyrraedd £1,050 (ynghyd â chymorth rhodd) yn gyflawniad gwych ac rydym i gyd yn ddiolchgar iawn am roddion a roddwyd hyd yma. Bydd hyn yn sicrhau y bydd Gwasanaeth Diabetes Ceredigion yn gallu parhau â’r gwasanaeth rhagorol y maent yn ei ddarparu i bobl ddiabetig o bob math. Roedd sefydlu tudalen JustGiving trwy Hywel Dda yn hawdd iawn a byddem fel teulu yn annog unrhyw un i godi arian ar gyfer ein gwasanaethau GIG lleol trwy wneud rhywbeth syml a hwyliog. Nid oes rhaid i chi redeg marathon na dringo Everest bob amser ‘.

keith kayak

Mae Anwen Mai Jones yn Nyrs Arbenigol Diabetes Cymunedol sydd wedi adnabod Keith ers nifer o flynyddoedd, meddai, “Mae Keith yn ysbrydoliaeth i ni i gyd ac yn sicr fe roddodd wên ar fy wyneb ar Ddydd Calan! Bydd yr arian gwerthfawr a godir yn cael ei ddefnyddio’n lleol i gefnogi gwasanaethau cyfredol a bod o fudd i gleifion. Mae sicrhau bod unigolion sy’n byw gyda Chyflwr Cronig, fel Diabetes, yn parhau i dderbyn cefnogaeth a rheolaeth yn ystod pandemig wedi bod yn her. Fodd bynnag, mae’n hanfodol bod gwasanaethau’n addasu i gefnogi iechyd corfforol ac emosiynol er mwyn atal datblygiad y cymhlethdodau tymor hir”

Bydd yr arian a godir trwy her Keith yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y mae’r GIG yn ei ddarparu.

Keith Henson challenge

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Hoffem ddiolch i Keith am ei ymdrechion codi arian creadigol a’i gefnogaeth ysbrydoledig. Mae codwyr arian fel Keith yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau cleifion a staff y GIG yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, ac rydym yn ddiolchgar iawn i unrhyw un sy’n penderfynu rhoi rhywbeth yn ôl i’n helusennau GIG. “

Os hoffech chi ein cefnogi wrth i ni ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i wariant craidd y GIG, gallwch ddarganfod mwy yn www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle