Cyngerdd rhithwir Theatr y Ffwrnes i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi 2021

0
352

Eleni mae dathliad Dydd Gŵyl Dewi Theatrau Sir Gâr yn symud ar-lein gyda chyngerdd rhithwir, a fydd yn cael ei ffilmio yn theatr arbennig y Ffwrnes yn Llanelli, ac a fydd yn cael ei ffrydio i gynulleidfaoedd gartref nos Lun, Mawrth y 1af.

Lauren

Bydd y cyngerdd yn arddangos cyfoeth o dalentau Cymreig, gan gynnwys perfformiadau gan Delynores Swyddogol Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru, Alys Huws, a hefyd y canwr Samuel Wyn-Morris, sy’n gwneud enw iddo ei hun ym myd y theatr gerdd lle mae wedi perfformio’n fwyaf diweddar yng nghynhyrchiad y West End o Les Misérables. Y darllenydd gwadd fydd yr actor sydd bellach yn byw yn Sir Gaerfyrddin, Julian Lewis Jones, sydd wedi ymddangos yn y ffilm Hollywood Invictus ac sy’n wyneb rheolaidd yn y gyfres Stella ar Sky TV. Bydd y cyngerdd hefyd yn cynnwys perfformiadau gan y cantorion ifanc Osian Clarke a Lauren Fisher, y ddau ohonynt yn aelodau o raglen Loud Applause Rising Stars. Arweinydd y noson fydd y darlledwr a’r awdur lleol adnabyddus, Alun Gibbard.

Julian

Y cyngerdd eleni fydd yr wythfed flwyddyn i Theatrau Sir Gâr ffurfio partneriaeth â Loud Applause Productions i gynhyrchu dathliadau Dydd Gŵyl Dewi y theatrau. Mae’r digwyddiad blynyddol yn denu cynulleidfaoedd o bob rhan o Sir Gaerfyrddin, a hyd yn oed o’r tu allan i’r sir, ac mae’r tocynnau bob amser yn cael eu gwerthu i gyd. Oherwydd y pandemig parhaus, bu’n rhaid addasu’r fformat arferol, gyda’r cyngerdd yn cael ei ffrydio ar-lein am y tro cyntaf.

Alis

Yn ogystal â sicrhau bod y cyngerdd ar gael i gynulleidfaoedd ar-lein, bydd pob cartref gofal yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn derbyn dolen gyswllt am ddim fel bod y preswylwyr a’r staff yn gallu mwynhau’r cyngerdd gyda’i gilydd. Dyma’r eildro i Theatrau Sir Gâr drefnu bod cartrefi gofal yn y ddwy sir yn cael gweld sioe ddigidol, gyda phob cartref gofal yn derbyn copi am ddim o gyngerdd Nadolig, ‘The West End at Christmas’ dros gyfnod y Nadolig diwethaf.

Alun

Mae tocynnau ar gyfer y cyngerdd Gŵyl Dewi rhithwir ar werth nawr ar wefan Theatrau Sir Gâr www.theatrausirgar.co.uk. Wrth brynu tocyn, byddwch yn derbyn dolen i wylio’r sioe a fydd yn cael ei ffrydio ar wefan y theatrau ar nos Lun, 1 Mawrth am 7yh. Bydd y cyngerdd ar gael i’w wylio drwy’r ddolen am dair wythnos wedi iddo gael ei ryddhau. Pris y tocynnau yw £5 i bob aelwyd gyda’r opsiwn i ychwanegu rhodd i gefnogi cynyrchiadau ar-lein yn y dyfodol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle