Diolch am y gefnogaeth – cefnogaeth brechlyn COVID-19

0
331

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) am ddiolch i’r nifer o sefydliadau partner a phobl sydd wedi helpu i weithredu’r rhaglen frechu COVID-19 – y rhaglen frechu fwyaf yn hanes y GIG.

O fewn y bwrdd iechyd, mae’r bobl sydd wedi mynd y tu hwnt i gefnogi’r rhaglen yn cynnwys y rhai sydd wedi’u ail leoli o’u rolau presennol, gan gynnwys nyrsys ysgol, staff theatr a staff cofnodion meddygol.

Mae llawer o staff hefyd yn gweithio sifftiau ychwanegol ar ddiwrnodau i ffwrdd, yn ystod gwyliau blynyddol ac ar benwythnosau. Yn ganolog i gefnogi pobl i drefnu eu hapwyntiadau mae ein derbynwyr galwadau yn ein canolfan orchymyn COVID-19 sydd wedi bod yn ateb hyd at 1,000 o alwadau’r dydd.

Mae’r gefnogaeth weinyddol yn unig ar gyfer rhaglen o’r raddfa hon wedi gofyn am dros 60 o staff gweinyddol newydd a nifer o wirfoddolwyr, hebddynt ni fyddem yn gallu brechu ar gyflymder o’r fath.

Mae gwirfoddolwyr a staff y cyngor wedi cefnogi rolau cwrdd a chyfarch, dyletswyddau gweinyddol a threfnu meysydd parcio gyda chefnogaeth hanfodol hefyd wedi’i derbyn gan grwpiau trafnidiaeth a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae’r bwrdd iechyd hefyd wedi derbyn cefnogaeth gan y Llu Awyr Brenhinol. Mae RAF Northolt wedi bod yn ein cefnogi ers dechrau mis Ionawr ac yn fwy diweddar rydym wedi croesawu cymorth ychwanegol RAF Honington ac RAF Coningsby.

Dywed Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Diolch i gefnogaeth nifer enfawr o bobl, sefydliadau a gwasanaethau lleol, rydym wedi gallu cyflwyno’r rhaglen frechu yn gyflym iawn. Ers i’n brechlyn cyntaf gael ei roi ym mis Rhagfyr, rydym wedi llwyddo i ddosbarthu dos cyntaf o’r brechlyn i dros 20% o’n poblogaeth.

“Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb yr ymrwymiadau diflino gan bawb dan sylw. Diolch yn ddiffuant i chi i gyd. ”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle