Mae pobl sy’n byw ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn cael eu hatgoffa bod heddiw’n nodi pythefnos yn unig nes bod holl dir ysbytai’r tair sir yn dod yn ddi-fwg.
Mae deddfau newydd, sy’n cael eu cyflwyno ledled Cymru ddydd Llun 1 Mawrth, yn adeiladu ar y gwaharddiad ar ysmygu a gyflwynwyd yn 2007, a bydd yn arwain at bob rhan o ysbytai Glangwili, Bronglais, Llwynhelyg a Tywysog Philip yn dod yn ddi-fwg.
Bydd y gyfraith hefyd yn berthnasol i’r holl gyfleusterau eraill sy’n cael eu rhedeg gan y Bwrdd Iechyd.
Daw hyn yn rhan o ymgyrch genedlaethol i greu Cymru iachach a dyfodol iachach trwy amddiffyn pawb rhag mwg niweidiol, ail-law, cefnogi’r rhai sy’n ceisio rhoi’r gorau iddi, yn ogystal â lleihau normaleiddio ysmygu, a dyna pam mae’r gyfraith ddi-fwg yn yn cynnwys ysgolion, meysydd chwarae cyhoeddus, ac ardaloedd awyr agored mewn lleoliadau gofal dydd a gwarchod plant.
Gallai unrhyw un sy’n cael eu dal yn torri’r gyfraith trwy ysmygu ar y tir hwn wynebu dirwy o £100.
Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus BIP Hywel Dda: “Mae hyn yn newyddion gwych i bobl yn y tair sir a Chymru gyfan. Bydd atal pobl rhag ysmygu ar dir ein hysbytai yn hyrwyddo amgylcheddau gofal iachach, yn amddiffyn defnyddwyr ysbytai rhag mwg ail-law niweidiol ac yn cefnogi’r rhai sy’n defnyddio gwasanaethau’r GIG i roi’r gorau iddi.”
“Rydym yn gwybod y niwed y gall ysmygu ei wneud i iechyd, felly edrychaf ymlaen at gael cefnogaeth ein staff, cleifion ac ymwelwyr, i sicrhau ein bod ni i gyd yn chwarae ein rhan wrth adeiladu Cymru iachach i’r dyfodol.
Mae llawer o ysmygwyr eisoes wedi’u cymell i roi’r gorau i ysmygu oherwydd y pandemig COVID-19 a’r gobaith yw y bydd y ddeddfwriaeth newydd hon yn annog hyd yn oed mwy i wneud hynny. Rydym wedi dysgu y gall ysmygu gynyddu’r risg o ddal COVID-19 a hefyd difrifoldeb y clefyd.
Gyda chefnogaeth yw’r ffordd orau i roi’r gorau i ysmygu am byth, a dyna pam rydyn ni’n sicrhau bod gwasanaethau cymorth ysmygu ar gael i’r rhai a hoffai gael help.
Gall Tîm Ffordd o Fyw Iach a Llesiant (Ysmygu) Hywel Dda ddarparu cefnogaeth ymddygiadol arbenigol a chyfrinachol y GIG a mynediad at feddyginiaeth i helpu i roi’r gorau i ysmygu. Ar hyn o bryd darperir cefnogaeth dros y ffôn. Gellir cysylltu â’r gwasanaeth ar 0300 303 9652, sy’n rhif ffôn di-dâl.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle