Myfyrwyr parafeddygol yn cael brechiad wrth iddynt barhau i roi cymorth i wasanaethau

0
348

Mae myfyrwyr parafeddygol Prifysgol Abertawe wedi cael brechiad yn erbyn coronafeirws wrth iddynt barhau i weithio ar reng flaen y GIG. 

Mae’r myfyrwyr yn falch o gael eu diogelu wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau’n rhoi cymorth i wasanaethau allweddol. 

Meddai Sarah Broad, sydd yn ail flwyddyn Diploma Addysg Uwch mewn Gwyddor Barafeddygol: “Ar ôl cludo menyw a oedd yn dioddef yn arw o Covid-19 i Ysbyty Bronglais yr wythnos hon, roeddwn yn teimlo’n llawer hapusach yn treulio awr yn ei thrin yn yr ambiwlans, a hynny’n gorfforol agos ati, gan wybod fy mod wedi cael brechiad. 

“Roedd yn teimlo fel bod gennyf haen arall o gyfarpar diogelu personol!” 

Ychwanegodd Josephine McCarthy, sydd ym mlwyddyn gyntaf y cwrs BSc mewn Gwyddor Barafeddygol: “Mae cael brechiad yn ein galluogi i gadw pobl eraill yn ogystal â ni ein hunain yn ddiogel. Ar hyn o bryd, mae pob peth bach yn helpu.” 

Meddai Nikki Williams, arweinydd y tîm astudiaethau parafeddygol: “Ym Mhrifysgol Abertawe, mae gennym bartneriaeth agos â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru sydd wedi cael ei hatgyfnerthu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. 

“Drwy gydol y pandemig, mae ein myfyrwyr wedi gallu parhau â’u haddysg a’u hyfforddiant, yn enwedig eu lleoliadau gwaith clinigol. 

“Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi sicrhau bod pob un o’r myfyrwyr wedi cael y cyfarpar diogelu personol i’w diogelu hwy, eu cydweithwyr, defnyddwyr gwasanaeth a’u gofalwyr. 

“Rhoi brechiad i’n myfyrwyr yw’r cam nesaf yn y broses glodwiw hon ac mae’n dangos rôl allweddol myfyrwyr wrth gyflwyno gofal yn ystod eu hyfforddiant.”

Meddai Mel De Castro-Pugh, sydd yn ail flwyddyn Diploma Addysg Uwch mewn Gwyddor Barafeddygol: “Mae gennyf gyflwr iechyd isorweddol, felly mae cael brechiad – ochr yn ochr â defnyddio’r cyfarpar diogelu personol priodol – wedi tawelu fy meddwl wrth weithio gyda chleifion sy’n dioddef o Covid-19. 

“O’r diwedd, rwy’n gallu gweld goleuni ym mhen draw’r twnnel – mae angen i ni sicrhau bod cynifer o bobl â phosib yn cael brechiad.” 

Meddai arweinydd brechiadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Jo Kelso: “Fel ymddiriedolaeth, rydym wedi bod yn falch o groesawu ein myfyrwyr parafeddygol i ymuno â ni’n uniongyrchol yn y frwydr yn erbyn y clefyd hwn ac rydym wedi rhoi’r cyfle iddynt gael brechiad ochr yn ochr â’u cydweithwyr yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru sy’n dod i gysylltiad â chleifion, ein gwirfoddolwyr a’r is-gontractwyr sy’n bartneriaid i ni. 

“Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr bod ein cydweithwyr yn y bwrdd iechyd wedi cynnwys myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn eu clinigau brechu torfol.” 

Mae myfyrwyr parafeddygol wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr cymwysedig drwy gydol y pandemig. Yn ôl ym mis Mawrth, cofrestrodd 101 o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe i weithio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a rhoi cymorth i’r gwasanaethau cludo cleifion arfaethedig mewn achosion nad oeddent yn frys nac yn gritigol, gan ryddhau parafeddygon cymwysedig i wneud dyletswyddau mwy brys. 

Mwy o wybodaeth am ein cwrs Gwyddor Barafeddygol 

 Craig Brown, sydd ym mlwyddyn gyntaf y cwrs BSc mewn Gwyddor Barafeddygol, yn cael ei frechiad.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle