Peidiwch â chlicio ar y ddolen. Peidiwch â nodi eich rhif defnyddiwr na’ch cyfrinair ar gyfer Facebook. Mae’n sgam.
Mae defnyddwyr Facebook wedi bod yn derbyn neges sy’n honni bod yr anfonwr wedi dod o hyd i fideo neu ddelwedd ohonoch. Wrth glicio ar y ddolen, byddwch yn cael eich tywys drwy gadwyn o wefannau sydd wedi’u hysgrifennu’n arbennig gan sgamwyr i gasglu cymaint o fanylion ac sy’n bosib wrthych, a hefyd heintio eich dyfais â meddalwedd hysbysebu neu faleiswedd arall.
Yna, mae’ch manylion personol mewn dwylo droseddwyr.
Sut i ddiogelu’ch hun yn erbyn gwe-rwydwyr:
– Defnyddiwch gyfrineiriau unigryw a chymhleth ar gyfer eich holl gyfrifon ar-lein. Mae rheolwyr cyfrinair yn eich helpu i gynhyrchu cyfrineiriau cryf ac yn eich hysbysu pan fyddwch chi’n ailddefnyddio hen gyfrineiriau.
– Defnyddiwch ddilysu aml-ffactor lle bo’n bosibl.
– Byddwch yn ymwybodol o unrhyw negeseuon a anfonir atoch, hyd yn oed rhai gan eich cysylltiadau ar Facebook. Bydd ymosodiadau gwe-rwydo fel arfer yn defnyddio rhyw fath o deilwra cymdeithasol i’ch denu i glicio ar ddolenni maleisus neu lawrlwytho ffeiliau sydd wedi’u heintio.
– Cadwch lygad allan am unrhyw weithgarwch amheus ar eich cyfrif Facebook neu gyfrifon ar-lein eraill.
Rhagor o wybodaeth am dwyll a throseddau seiber >> http://orlo.uk/Qt4HP
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle