Cyn-filwyr y lluoedd arfog i gael eu cyfrif yng Nghyfrifiad 2021

0
303
Man's hands using laptop with blank screen on desk in home interior.; Shutterstock ID 295381787; Purchase Order: PO-MCS-00009013; Comp Requestor: Approved by Dominique Toussaint; Client/Licensee: The Office for National Statistics; Job: Project name: PRO-17111 - The Office for National Statistics : Social PR - Images

Datganiad i’r wasg

18 Chwefror 2021

Mae’r cyfrifiad yn prysur agosáu ac, am y tro cyntaf, bydd pobl yn gallu nodi eu bod yn gyn-filwyr o’r lluoedd arfog.

Arolwg a gaiff ei gynnal unwaith bob degawd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yw’r cyfrifiad ac mae’n rhoi’r amcangyfrif mwyaf cywir i ni o’r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr. Mae wedi cael ei gynnal bob degawd ers 1801, ac eithrio 1941.

Ymhlith y cwestiynau newydd y tro hwn mae un sy’n gofyn i bobl a ydynt wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, er mwyn helpu i gyflawni ymrwymiadau a wnaed gan lywodraeth ganolog a llywodraeth leol o dan Gyfamod y Lluoedd Arfog, sef y cytundeb rhwng y wlad a’r rhai sydd wedi’i gwasanaethu. Mae unrhyw un sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog am o leiaf ddiwrnod yn cael ei ystyried yn gyn-filwr.

“Bydd cyfrifiad llwyddiannus yn sicrhau y gall pawb, o lywodraeth leol i elusennau, ddarparu gwasanaethau a chyllid ble mae eu hangen fwyaf,” meddai Iain Bell, y dirprwy ystadegydd gwladol yn SYG.

“Gallai hyn olygu pethau fel meddygfeydd, ysgolion a llwybrau trafnidiaeth newydd. Dyna pam mae mor bwysig bod pawb yn cymryd rhan – gan gynnwys y rhai sydd wedi gwasanaethau yn y lluoedd arfog yn flaenorol – a pham ein bod wedi’i gwneud hi’n haws i bobl gwblhau’r cyfrifiad ar lein ar unrhyw ddyfais, gan gynnig help a holiaduron papur i bobl os bydd angen.”

Un o’r heriau mwyaf wrth fynd i’r afael ag angen yw gwybod ble mae’r angen hwnnw yn y lle cyntaf. Felly, bydd gwell dealltwriaeth o niferoedd, lleoliadau ac ystodau oedran cyn-filwyr y lluoedd arfog yn helpu’r Llywodraeth, y GIG a sector elusennau’r lluoedd arfog i dargedu adnoddau ac arbenigedd lle mae eu hangen fwyaf.

Arweiniodd y Lleng Brydeinig Frenhinol ymgyrch dros gynnwys y cwestiwn newydd.

Dywedodd Charles Byrne, Cyfarwyddwr Cyffredinol y Lleng Brydeinig Frenhinol: “Bydd cynnwys cwestiwn milwrol yn y cyfrifiad – a gafodd ei ychwanegu ar ôl ymgyrch lwyddiannus y Lleng Brydeinig Frenhinol – yn gwella ein dealltwriaeth o gymuned y Lluoedd Arfog, sydd wedi bod yn gyfyngedig hyd yn hyn, yn sylweddol.

“Mae hyn yn rhywbeth rydym ni wedi bod yn ceisio ei gyflawni ers blynyddoedd lawer. Mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn credu bod cynifer ag 1 o bob 10 o bobl yn y Deyrnas Unedig yn aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog, ond ychydig iawn o wybodaeth swyddogol sydd ar gael am ble maen nhw’n byw neu beth yw eu hanghenion. Bydd y cwestiwn hwn yn cael effaith enfawr ar staff milwrol, cyn-filwyr a’u teuluoedd ymhell i’r dyfodol, gan y bydd yn sicrhau y gallwn ni, ynghyd ag elusennau a darparwyr gwasanaethau eraill, ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl iddynt lle a phan fydd ei angen fwyaf.

“Byddem yn annog pob aelod o Gymuned Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig – boed yn filwr rheolaidd neu’n filwr wrth gefn – i gofnodi ei statws fel cyn-filwr yn y cyfrifiad sydd ar ddod.”

Gwnaeth Strategaeth y Deyrnas Unedig ar gyfer ein Cyn-filwyr ymrwymo’r llywodraeth i sicrhau mai’r wlad hon yw’r lle gorau yn y byd i fod yn gyn-filwr. Mae meithrin dealltwriaeth glir o’r boblogaeth cyn-filwyr yn rhan bwysig o wireddu’r uchelgais hon.

Ychwanegodd y Gweinidog dros Bobl Amddiffyn a Chyn-filwyr, Johnny Mercer: “Rwy’n annog pob cyn-filwr i achub ar y cyfle i nodi ei fod yn gyn-filwr yn y cyfrifiad sydd ar ddod.

“Mae data gwell yn golygu cymorth gwell, ac mae’r cyfrifiad yn gam allweddol tuag at sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cefnogi cyn-filwyr yn y ffordd orau posibl.”

Bydd y cyfrifiad, a gaiff ei gynnal ar 21 Mawrth 2021, yn taflu goleuni ar anghenion grwpiau a chymunedau gwahanol, a’r anghydraddoldebau mae pobl yn eu profi, gan sicrhau y bydd y penderfyniadau mawr a fydd yn wynebu’r wlad yn dilyn y pandemig a gadael yr Undeb Ewropeaidd yn seiliedig ar y wybodaeth orau posibl.

Cyfrifiad 2021 fydd yr un cyntaf i gael ei gynnal ar lein yn bennaf. Bydd cartrefi yn cael llythyr â chod mynediad unigryw ym mis Mawrth, a fydd yn eu galluogi i lenwi’r holiadur ar eu cyfrifiaduron, eu ffonau neu eu llechi. Bydd holiaduron papur hefyd ar gael ar gais, a bydd llawer o gymorth ar gael i bobl os bydd angen.

Bydd y canlyniadau ar gael o fewn 12 mis, ond caiff cofnodion personol eu cadw’n ddiogel am 100 mlynedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.


I gael rhagor o wybodaeth am y cyfrifiad, ewch i cyfrifiad.gov.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle