Lansio sesiynau canu ar-lein Cymraeg Goldies Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi

0
316

Sesiwn canu ar-lein newydd yn Gymraeg fydd y datblygiad nesaf gan elusen Goldies Cymru.

Pan orfododd Covid gau pob sesiwn byw yn ystod y dydd ar draws De Cymru, ymateb cadarnhaol yr Elusen oedd mynd ar-lein y Gwanwyn diwethaf gyda sesiynau Canu a Gwenu rheolaidd www.goldieslive.com. Tyfodd y rhain i fod yn ddwywaith yr wythnos am 11am ar ddyddiau Mawrth a dyddiau Iau gyda dwy o arweinwyr sesiwn poblogaidd Goldies Cymru, Rachel Parry a Cheryl Davies.

Sefydlwyd Goldies gan Grenville Jones. Dywedodd:

“Mae ein Helusen yn dod â llawenydd i bobl hŷn ynysig drwy sesiynau canu hen ffasiwn. Os oedd ein gwaith yn bwysig cyn y cyfnodau clo, yna mae’r cynnydd mewn ynysigrwydd yn gwneud ein gwaith yn hanfodol. Mae’n amlwg na fedrai pobl hŷn fynychu mwy o’n 60 sesiwn yn ystod y dydd ledled Cymru felly fe aethom ni â’n sesiynau atyn nhw yn eu hystafelloedd blaen. Canu a Gwenu ar eich soffa!

Datblygwyd sesiynau drwy gydol y llynedd gyda chyflwyno geiriau ar y sgrin, caneuon Bollywood ac yn cynnwys fideos gwybodaeth iechyd cyhoeddus ac ymarferion ysgafn mewn cadair. Mae llawer o sefydliadau cymorth oedran a chartrefi preswyl wedi hyrwyddo sesiynau dwywaith yr www.goldieslive.com sydd ar gael ar YouTube a Facebook.

Ar Ddydd Gŵyl Dewi, dydd Mawrth 1 Mawrth, bydd Goldies Cymru yn cyflwyno sesiynau misol newydd yn y Gymraeg, gyda Sian Francis. Mae’r sesiynau hyn yn bosibl diolch i gefnogaeth Sefydliad Moondance.

Cafodd Sian ei geni yn y Cymoedd ac mae’n awr yn byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr a’i dau blentyn. Bu’n hoff iawn o gerddoriaeth ers yn ifanc a chafodd ei magu yn cystadlu mewn Eisteddfodau ac mewn cynyrchiadau theatr gerdd lleol. Yn ddiweddarach aeth ati i gwblhau BMus o Brifysgol Goldsmiths lle astudiodd Gerddoriaeth Glasurol ac Opera. Treuliodd hefyd lawer o flynyddoedd yn gweithio fel diddanwr ar fordeithiau.

Mae’n angerddol am gerddoriaeth yn y Gymraeg ac yn edrych ymlaen yn fawr at ddechrau ei sesiynau gyda Goldies.

Dywedodd Sian:

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ganu gyda phobl hŷn ar draws Cymru a dros y misoedd i ddod byddaf yn defnyddio rhai o alawon gwych Cymru yn ogystal â chyflwyno rhai newydd.

“Ymunwch â fi ar Ddydd Gŵyl Dewi os gwelwch yn dda.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle