Am y tro cyntaf, caiff gwybodaeth ar lefel leol am gyfran y boblogaeth sy’n lesbiaidd, yn hoyw, yn ddeurywiol neu’n drawsryweddol ei chasglu yn y cyfrifiad fis nesaf.
Caiff arolwg y cyfrifiad ei gynnal unwaith bob degawd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) – cynhyrchydd ystadegau swyddogol annibynnol mwyaf y Deyrnas Unedig – ac mae’n rhoi’r amcangyfrif mwyaf cywir o’r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr. Mae wedi cael ei gynnal bob degawd ers 1801, ac eithrio 1941.
Bydd Cyfrifiad 2021 yn taflu goleuni ar anghenion grwpiau a chymunedau gwahanol, ac yn sicrhau bod penderfyniadau ynglŷn â chynllunio ac ariannu gan lywodraethau canolog a lleol, y GIG a’r sector elusennol yn seiliedig ar y wybodaeth orau bosibl. Fel holl gwestiynau’r cyfrifiad, ni chaiff unrhyw wybodaeth bersonol ei rhannu, a chaiff data eu gwneud yn ddienw cyn i ystadegau cyfunol gael eu defnyddio i lywio polisïau a gwasanaethau.
Ar ôl i ni siarad â’r cyhoedd, elusennau a chyrff y llywodraeth, cynnal profion a gwneud gwaith ymchwil gyda nhw, bydd y cyfrifiad yn gofyn dau gwestiwn newydd sy’n berthnasol i gymunedau LGBTQ+ ar hunaniaeth o ran rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol.
Bydd y cwestiynau hyn yn meithrin dealltwriaeth well o boblogaethau lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol, a fydd yn helpu sefydliadau i fynd i’r afael ag unrhyw anghydraddoldebau y gall y grwpiau hyn eu hwynebu ac yn dangos ble mae angen gwasanaethau.
Gofynnir y cwestiynau gwirfoddol i unigolion 16 oed a throsodd, felly ni fydd neb yn cael ei orfodi i ateb y cwestiynau hyn os nad yw am wneud hynny. Gall pobl hefyd ofyn am holiadur i unigolion a rhoi eu hatebion ar wahân i aelodau eu cartref presennol os byddan nhw am wneud hynny.
Dywedodd Iain Bell, dirprwy ystadegydd gwladol SYG: “Er bod amcangyfrifon o gyfeiriadedd rhywiol yn genedlaethol ac yn rhanbarthol, nid yw’n bosibl llunio amcangyfrifon cadarn ar gyfer awdurdodau lleol – dyna y bydd data’r cyfrifiad yn ei roi.
“A does dim data cadarn ar gael ar hunaniaeth o ran rhywedd o gwbl. Mae angen y data hyn ar awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau i lywio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau. Bydd y cwestiynau am gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd yn rhai gwirfoddol i unigolion 16 oed a throsodd.
“Heb ddata cadarn ar faint y boblogaeth LGBT yn genedlaethol ac yn lleol, mae’r unigolion sy’n gwneud penderfyniadau yn gweithredu mewn gwacter, heb wybod graddau na natur yr anfantais y gall pobl LGBT fod yn ei hwynebu o ran iechyd, deilliannau addysgol, cyflogaeth a thai.”
Diwrnod y cyfrifiad yw 21 Mawrth, a bydd y canlyniadau ar gael yn 2022. Yn unol â pholisi SYG, ni fyddwn byth yn rhannu manylion personol ac ni fydd neb, gan gynnwys cyrff y llywodraeth, yn gallu adnabod unigolion yn ystadegau’r cyfrifiad. Caiff cofnodion y cyfrifiad eu cadw’n ddiogel am 100 mlynedd a dim ond wedyn y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn gallu eu gweld.
Caiff y cyfrifiad ei gynnal ar lein yn bennaf. Bydd cartrefi yn cael llythyr â chod mynediad unigryw ym mis Mawrth, a fydd yn eu galluogi i lenwi’r holiadur ar gyfrifiaduron, llechi, ffonau neu liniaduron.
Bydd holiaduron papur ar gael ar gais hefyd, ynghyd â chymorth ieithyddol drwy linell radffon. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i cyfrifiad.gov.uk.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle