Safonau Masnach Cymru yn croesawu camau’r CMA yn erbyn Lastminute.com

0
299

Mae Safonau Masnach Cymru wedi croesawu’r newyddion y bydd trefnydd teithiau ar-lein yn wynebu camau cyfreithiol oni bai ei fod yn ad-dalu dros £1m i gwsmeriaid.

Mae’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) wedi hysbysu Lastminute.com y bydd yn cymryd camau llys os nad yw’n ad-dalu’r taliadau sydd dal yn ddyledus i 2,600 o gwsmeriaid, gwerth dros £1m.

Mae Safonau Masnach Cymru, sy’n cynrychioli’r 20 gwasanaeth safonau masnach awdurdodau lleol ledled Cymru sy’n gweithio gyda’i gilydd i ddiogelu defnyddwyr a diogelu busnesau cyfreithlon, wedi croesawu’r cam gan y CMA.

Fis Rhagfyr diwethaf llofnododd y trefnydd teithiau ymrwymiad ffurfiol i dalu dros £7m i fwy na 9,000 o gwsmeriaid pan gafodd eu gwyliau eu canslo oherwydd y pandemig.

Fodd bynnag, mae Lastminute.com wedi methu ad-dalu 2,600 o gwsmeriaid, a oedd i fod i gael eu harian yn ôl ddiwedd y mis diwethaf (Ionawr).  Mae’r cwmni hefyd wedi methu â chyflawni ei ymrwymiad parhaus i ad-dalu’r holl gwsmeriaid sydd â hawl i ad-daliad o fewn 14 diwrnod o ganslo eu gwyliau parod ar neu ar ôl 3 Rhagfyr 2020.

Dywedodd Lastminute.com wrth rai cwsmeriaid gwyliau parod i fynd yn uniongyrchol i’w cwmni hedfan i gael cost eu taith hedfan yn ôl, sy’n torri ei hymrwymiadau ac yn erbyn ei rhwymedigaethau o dan y Rheoliadau Teithio Parod.

Mae’r CMA wedi hysbysu Lastminute.com y bydd yn cymryd camau llys os nad yw’n talu’r ad-daliadau sy’n ddyledus o fewn 7 diwrnod. Er mwyn osgoi gweithredu yn y llys, rhaid i Lastminute.com hefyd sicrhau y bydd cwsmeriaid sy’n archebu eu gwyliau parod o hyn ymlaen yn cael ad-daliad llawn o fewn 14 diwrnod lle mae ganddynt hawl gyfreithiol i’w harian yn ôl ar ôl canslo eu gwyliau parod.

Dywedodd Helen Picton, Cadeirydd Safonau Masnach Cymru: “Mae’n siomedig y gallai cwsmeriaid Lastminute.com sy’n byw yng Nghymru fod yn dal i aros am yr ad-daliadau gwyliau parod y mae ganddynt hawl iddynt.  Mae angen i gwmnïau gydymffurfio â chyfraith defnyddwyr a darparu ad-daliadau pan fydd contractau gwyliau parod yn cael eu terfynu o ganlyniad i Covid-19.

“Rydym yn croesawu’r camau y mae’r CMA yn ystyried eu cymryd yn erbyn Lastminute.com a gobeithio y bydd yn golygu bod eu cwsmeriaid yn cael yr ad-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle