Staff y GIG yn diolch i’r cyhoedd am gefnogaeth barhaus

0
282

Mae staff yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth wedi diolch i’r cyhoedd am gefnogi eu helusen GIG leol ar ôl iddynt dderbyn rhodd o offer i wella profiad cleifion ar Ward Dyfi. Costiodd sganiwr AccuVein dros £3,895 ac mae wedi’i gynllunio i ganiatáu i staff adnabod gwythiennau yn hawdd i helpu gyda chymryd gwaed a canwleiddio, mae hyn yn lleihau’r risg o ymdrechion dro ar ôl tro i gymryd gwaed, gan wneud y broses yn haws i staff ac yn fwy cyfforddus i gleifion.

Mae Ward Dyfi yn darparu gofal i gleifion anadlol a chardioleg. Mae gan lawer o gleifion Ward Dyfi gyflyrau cymhleth sy’n ei gwneud yn ofynnol i gymryd gwaed yn ddyddiol ac mae’r offer newydd yn golygu bod mwy o staff yn gallu cymryd gwaed, gan ryddhau meddygon i gyflawni dyletswyddau eraill.

Mae Sharon Rickard (yn y llun) yn Rheolwr Clinigol Safle ym Mronglais. Meddai “Rydym yn ddiolchgar iawn am dderbyn yr AccuVein trwy Elusennau Iechyd Hywel Dda. Trwy gael yr AccuVein ar gyfer y Tîm Safle Clinigol, bydd yn ein galluogi i sicrhau y gellir lleoli mynediad mewnwythiennol mewn modd amserol, fel y gall cleifion dderbyn eu triniaeth heb oedi pellach. Bydd yr AccuVein hefyd o gymorth mawr yn ystod unrhyw argyfwng meddygol. ”

Ariannwyd yr offer gan Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol y GIG ar gyfer Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Nid yw’r cyllid elusennol yn disodli cyllid y GIG ond fe’i defnyddir i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i wariant craidd y GIG. I ddarganfod mwy am waith yr elusen a sut i gefnogi eu codi arian, ewch i elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle