“Does dim ateb cyflym” – rhybudd clir gan yr NSPCC wrth iddynt annog Aelodau’r Senedd i roi lle blaenllaw i blant mewn cynlluniau adfer Covid

0
293
Children pictured are volunteers. Credit Tom Hull.

  • Elusen yn rhybuddio bod yn rhaid i gamau adfer y pandemig fod yn hirdymor, gyda’r plant yn greiddiol i hynny
  • Mae’r pandemig wedi ehangu’r bwlch anghydraddoldebau ac wedi dwysau sefyllfaoedd sydd eisoes yn anodd i blant
  • Ymyrraeth ac atal yn gynnar yn allweddol wrth i’r NSPCC Cymru nodi cynigion ar gyfer cynlluniau adfer, ac yn galw am ‘Gynllun Gweithredu Diogelwch Ar-lein i Blant’ cadarn.

Mae’r NSPCC yn annog Senedd nesaf Cymru i fynd i’r afael ag effaith ddinistriol y pandemig ar blant ledled Cymru, wrth rybuddio am y gefnogaeth sylweddol sydd ei hangen i helpu cenhedlaeth i adfer ac ailgysylltu.

I lawer o blant, mae’r ansicrwydd a’r gofid o ganlyniad i’r pandemig wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl, ac mae plant eraill wedi teimlo eu bod yn gaeth mewn cartrefi anniogel – wedi’u datgysylltu oddi wrth eu rhwydweithiau cymorth arferol.

Mae Childline wedi cwnsela dros 60,000 o blant a phobl ifanc ledled y DU am bryderon sy’n ymwneud ag iechyd meddwl ers y cyfyngiadau symud cenedlaethol cyntaf ym Mawrth 2020, yn ogystal â dros 20,000 o sesiynau am feddyliau a theimladau hunanladdol.

Children and adults pictured are models. Credit Tom Hull

Mae risgiau wedi cynyddu i blant sy’n byw mewn cartrefi gyda cham-drin domestig, cam-drin rhywiol, camddefnyddio sylweddau, rhieni ag anghenion iechyd meddwl neu anawsterau eraill, a bydd hyn, wedi’i gyfuno â’r garfan o blant ‘agored i niwed newydd’ wedi’u creu gan y pandemig, yn gwaethygu’r straen ar wasanaethau a oedd eisoes yn amlwg cyn y pandemig.

Mae’r NSPCC Cymru yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ymrwymo i ‘Gynllun Gweithredu Diogelwch Ar-lein i Blant’ cadarn, sy’n arwain dull amddiffyn ac atal cenedlaethol, gan ganolbwyntio ar addysg a hyfforddiant. Mae’n rhybuddio bod yn rhaid i ymyrraeth gynnar i atal cam-drin ar-lein a sicrhau gwasanaethau digonol yn flaenoriaeth polisi allweddol i Lywodraeth nesaf Cymru, gan argymell ei bod yn archwilio cyfleoedd buddsoddi a chymorth i ddatblygu sector technoleg diogelwch yng Nghymru.

Mae heddluoedd ledled Cymru wedi cofnodi dros 2,600 o droseddau rhyw ar-lein yn erbyn plant ers iddo ddod yn orfodol i heddluoedd gofnodi ‘baner seiber’ – trosedd sy’n ymwneud â’r rhyngrwyd – yn 2015. Ond mae’r NSPCC yn rhybuddio bod gwir raddfa’r mathau hyn o droseddau yn debygol o fod yn llawer uwch, yn enwedig yn ystod y pandemig, pan fydd plant wedi wynebu mwy o risg o gam-drin ar-lein, wrth dreulio mwy o amser gartref ar ddyfeisiau’r rhyngrwyd ac oddi wrth rwydweithiau cymorth.

Children pictured are models. Credit Tom Hull

Mewn cynigion a gyhoeddir heddiw gan yr elusen blant, mae’n galw ar Senedd nesaf Cymru i gamu i’r adwy ac arwain y ffordd wrth atal camdriniaeth ac esgeulustod, gan sicrhau bod plant yn flaenoriaeth ac yn ganolog i’w chynlluniau adfer ar ôl Covid.

Mae cymorth i blant adfer ar ôl camdriniaeth, a diogelwch ar-lein, wedi’u cynnwys mewn cyfres o argymhellion a gyhoeddir gan NSPCC Cymru heddiw:

  • Cymorth cynnar a digonol i deuluoedd sy’n cael trafferth ag iechyd meddwl amenedigol, cam-drin domestig neu adfyd sy’n gysylltiedig â thlodi.
  • Cynllun Gweithredu Cymru diwygiedig a chynhwysfawr i atal cam-drin plant yn rhywiol.
  • Sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn ymwybodol o’u hawl i fod yn ddiogel ar-lein ac yn cael cymorth i wneud hynny.
  • Dull cydweithredol o darfu ar gam-drin ar-lein drwy ddeddfwriaeth Niwed Ar-lein ar draws y DU, a chamau atal gwell drwy ‘Gynllun Gweithredu Diogelwch Ar-lein  i Blant’ cadarn yng Nghymru.
  • Sicrhau bod plant yn gallu dweud eu dweud, fel eu bod yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu clywed a’u deall, ac yn gallu cael gafael ar wasanaethau cymorth i adfer ar ôl camdriniaeth.
  • Rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i oedolion weithredu pan fydd plentyn yn gwneud datgeliad.
  • Mwy o blant yn cael y gefnogaeth a’r cymorth iechyd meddwl sydd eu hangen arnynt i wella.
Children and adults pictured are models. Credit Tom Hull

Meddai Vivienne Laing, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus NSPCC Cymru: “Rydyn ni’n gwybod nad oes ateb cyflym i roi terfyn ar gam-drin ac esgeuluso plant, a dyna pam mae’n rhaid i Senedd nesaf Cymru gymryd safbwynt tymor hir bwriadol os yw am ddod â chymunedau at ei gilydd a llwyddo i oresgyn effaith ddinistriol y pandemig ar blant.

“Mae’r heriau a wynebwyd wedi bod yn wahanol i unrhyw genhedlaeth arall, a bydd gwir raddfa eu heffaith yn dod i’r amlwg yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd i ddod. Mae’n hollbwysig bod Aelodau’r Senedd yn rhoi lle blaenllaw i blant yn eu cynlluniau adfer ac yn sicrhau bod adnoddau llawn ar gael i wasanaethau ateb y galw hwn.

“Mae gan Lywodraeth nesaf Cymru gyfle a dyletswydd enfawr i roi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar blant, i gadarnhau dull Cymru-gyfan wrth ddelio â diogelwch ar-lein, ac i dynnu sylw at sut mae ymyrryd ac atal yn gynnar yn bosibl, os bydd pawb ar draws y wlad yn cymryd cyfrifoldeb i gadw plant yn ddiogel rhag niwed.”

Ers Ebrill 2020, mae llinell gymorth yr NSPCC wedi bod yn cael dros 30 o gysylltiadau bob dydd, ar gyfartaledd, gan oedolion ledled y DU sy’n poeni am blant sy’n byw gyda cham-drin domestig, ac mae gwasanaethau arbenigol yng Nghymru wedi dweud bod mwy o bwysau ar y ddarpariaeth sydd eisoes dan straen.

Pe bai Llywodraeth nesaf Cymru yn bwrw ymlaen â’r cynigion hyn, sy’n ffurfio cynlluniau maniffesto NSPCC Cymru, byddai gweinidogion ac Aelodau’r Senedd yng Nghymru yn arwain y DU i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn rhan flaenllaw a chanolog o gynlluniau adfer ar ôl Covid yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir.

Gofynnwyd i bob ymgeisydd addo eu cefnogaeth i frwydro dros blentyndod mwy diogel, ac mae mwy o wybodaeth ar gael ar twitter.com/nspcc-cymru, facebook.com/nspcccymruwales a gwefan yr NSPCC.

Gall plant gysylltu â Childline bob diwrnod o’r wythnos ar 0800 11 11 rhwng 9am a 3.30am. Neu gall plant gysylltu drwy childline.org.uk lle gellir gofyn am sgyrsiau un-i-un rhwng 9am a 10.30pm.

Gall unrhyw un sy’n pryderu am les plentyn ffonio llinell gymorth yr NSPCC ar 0808 800 5000 neu ymweld â nspcc.org.uk am gyngor.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle