Annog profion COVID-19 ar gyfer trigolion rhanbarth Hywel Dda sydd ag ystod ehangach o symptomau

0
364

Mae pobl sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn cael eu hannog i gael prawf COVID-19 am ddim os oes ganddyn nhw ystod ehangach o symptomau.

Yn flaenorol, dim ond y rhai â thymheredd uchel, peswch parhaus newydd, neu golli / newid blas ac arogl, a gynghorwyd i gael prawf. Mae’r bwrdd iechyd bellach hefyd yn annog pobl i gael prawf os oes ganddyn nhw unrhyw un o’r symptomau canlynol:

  • Symptomau tebyg i ffliw, gan gynnwys myalgia (poen yn y cyhyrau neu); blinder gormodol; cur pen parhaus; trwyn yn rhedeg neu drwyn wedi’i rwystro; tisian yn barhaus; dolur gwddf a / neu grygni, prinder anadl neu wichian
  • Teimlo’n sâl yn gyffredinol a hanes o fod mewn cysylltiad ag achos hysbys o COVID-19
  • Unrhyw symptomau newydd neu newid yn dilyn prawf negyddol blaenorol

Nod y newid yw dod o hyd i achosion COVID-19 cudd yn ein cymunedau a lleihau nifer y trosglwyddiadau.

Mae nodi heintiau, a allai fel arall heb eu canfod, yn arbennig o bwysig wrth i amrywiadau newydd o’r feirws ddod i’r amlwg. Po fwyaf o brofion a gynhelir, yr hawsaf fydd hi i adnabod clystyrau cynnar o achosion a newidiadau feirws posibl. Bydd hyn yn helpu i leddfu cyfyngiadau yn y dyfodol.

Bydd y drefn brofi newydd yn rhedeg i ddechrau am o leiaf 28 diwrnod ac yna’n cael ei hadolygu. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe hefyd yn ehangu ei gynnig o brofi fel hyn.

Dywedodd Alison Shakeshaft, Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Ar y cyfan, rydym yn gweld darlun cadarnhaol ar draws y tair sir a bu cwymp cyson yn nifer yr achosion COVID-19.

“Hefyd, mae’r galw am brofion wedi gostwng yn sylweddol ers diwedd 2020, felly mae gennym y gallu i ehangu’r cynnig o brofi i’r rheini sydd ag ystod ehangach o symptomau.

“Rydym yn gwybod bod y grĹľp ehangach o symptomau yn digwydd gyda COVID-19 ond nid ydynt yn cael eu hadrodd mor aml â’r tri symptom arferol. Gyda cyfraddau isel iawn o ffliw yn cylchredeg ar hyn o bryd, mae’n fwy tebygol bod symptomau ehangach tebyg i ffliw oherwydd COVID-19.

“Ein nod yw dod o hyd i gynifer o achosion COVID-19 â phosibl fel y gallwn atal y feirws rhag cael ei drosglwyddo i eraill. Rydyn ni eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu i ddod â’r pandemig i ben mor gyflym â phosib a helpu i godi’r cyfyngiadau. “

Os oes gennych unrhyw un o’r symptomau a amlinellir uchod, arhoswch gartref a chael prawf trwy archebu ar-lein trwy borth y DU https://www.gov.uk/get-coronavirus-test neu ffonio 119.

Gan mai cysylltiadau cenedlaethol yw’r rhain, efallai y gofynnir ichi yn awtomatig am y tri symptom cyffredin. Fodd bynnag, i archebu’ch prawf, dewiswch naill ai un o’r opsiynau hyn: “Mae eich cyngor lleol wedi gofyn i chi gael prawf” neu “Rydych chi’n rhan o brosiect peilot y llywodraeth”.

Ar Ă´l i chi gael eich prawf, rhaid i chi barhau i hunan-ynysu nes i chi dderbyn eich canlyniad, a fydd fel arfer o fewn 24 awr i’r prawf. Os yw’ch canlyniad yn bositif, rhaid i chi hunan-ynysu am 10 diwrnod o’r dyddiad y dechreuodd eich symptomau. Bydd y TĂŽm Olrhain lleol yn cysylltu â chi hefyd.

Os yw’ch canlyniad yn negyddol, gallwch chi ddod â’ch hunan-ynysu i ben, pan fyddwch chi’n teimlo’n ddigon da i wneud hynny.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle