Cyhoeddi lleoliadau brechu a llinell amser ar gyfer preswylwyr Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro mewn grwpiau blaenor

0
318

Gall Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gadarnhau y bydd pob person yng ngrwpiau blaenoriaeth JCVI 5 i 9 yn cael cynnig brechiad COVID-19 erbyn 18 Ebrill.

Er bod gan raglen frechu’r bwrdd iechyd y gallu i gynnig brechlyn i bawb yng ngrwpiau 5 i 9 erbyn y dyddiad targed gwreiddiol, sef 4 Ebrill, bu’n rhaid addasu’r cynllun dosbarthu yn seiliedig ar ddanfoniadau brechlyn wedi’u cadarnhau.

Gall trigolion Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro mewn grwpiau blaenoriaeth 5 i 9 ddisgwyl derbyn eu brechlyn fel a ganlyn:

  • Grŵp 5, pobl 65 – 69 mlwydd oed – yn cael eu gweinyddu gan feddygfeydd teulu rhwng 15 Chwefror a 12 Mawrth
  • Grŵp 6, pobl 16 i 64 mlwydd oed gyda chyflyrau iechyd sylfaenol a gofalwyr di-dâl – yn cael eu gweinyddu gan feddygfeydd teulu rhwng 22 Chwefror a 4 Ebrill
  • Grŵp 7, pobl60 – 64 mlwydd oed – yn cael eu gweinyddu gan ganolfannau brechu torfol yn cychwyn 8 Mawrth
  • Grŵp 8, pobl55 – 59 mlwydd oed – yn cael eu gweinyddu gan ganolfannau brechu torfol yn cychwyn 22 Mawrth
  • Grŵp 9, pobl 50 – 54 mlwydd oed – yn cael eu gweinyddu gan ganolfannau brechu torfol yn cychwyn 5 Ebrill

Ar hyn o bryd mae gan y bwrdd iechyd ganolfannau brechu torfol wedi’u lleoli yn Aberystwyth, Aberteifi, Hwlffordd, Dinbych-y-pysgod, Caerfyrddin a Llanelli.

Grŵp 6 yw’r garfan fwyaf i gael ei brechu hyd yma ac rydym yn deall y bydd llawer yn y grŵp hwn yn awyddus i dderbyn brechlyn. Peidiwch â chysylltu â’ch meddyg teulu neu’r bwrdd iechyd i ofyn am eich apwyntiad, cysylltir â chi’n uniongyrchol pan fydd eich tro chi a diolchwn ichi am eich amynedd.

Bydd pobl yng ngrwpiau 7, 8 a 9 yn derbyn llythyr gyda dyddiad ac amser apwyntiad. Cyrhaeddwch mor agos at amser eich apwyntiad a phosib. Bydd y llythyr yn cynnwys rhif ffôn i gysylltu â’r bwrdd iechyd pe bai angen i chi aildrefnu neu ganslo’ch apwyntiad ond gwnewch bob ymdrech i gadw’ch amser apwyntiad a ddyrannwyd.

Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Er bod ein rhaglen wedi gorfod arafu oherwydd cyflenwadau, rydym am sicrhau pawb yng ngrwpiau 5 i 9 bod gan ein timau anhygoel o frechwyr a meddygfeydd y gallu a’r hyblygrwydd i gyflawni’r rhaglen wrth i’r cyflenwadau gyrraedd y rhanbarth.

“Bydd cyflenwadau brechlyn yn dechrau cynyddu eto o ganol mis Mawrth, ac rydym yn hyderus y bydd pawb sy’n byw yn ein tair sir yn y 9 grŵp blaenoriaeth uchaf yn cael cynnig brechlyn erbyn canol mis Ebrill.

“Yn Hywel Dda mae gennym boblogaeth hŷn o’i gymharu â rhai byrddau iechyd eraill ac felly bydd dros 50% o’n poblogaeth oedolion wedi cael cynnig brechlyn erbyn yr ail garreg filltir.

“Mae gallu cyhoeddi hyn wrth inni agosáu at ben-blwydd y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf yn ddim llai na rhyfeddol.

“Unwaith eto, rhaid i mi ddweud diolch i bawb sy’n byw yn ein tair sir sy’n parhau i ddod ymlaen mewn niferoedd sylweddol ar gyfer y brechlyn. Mae’r nifer sy’n ei dderbyn yn parhau i fod yn rhyfeddol o uchel a gobeithiwn weld hyn yn parhau trwy grwpiau 5 i 9 ac i mewn i grŵp 10. ”

Gofynnir i bobl, lle bynnag y bo hynny’n bosibl, ddefnyddio eu cludiant preifat eu hunain i fynd i apwyntiad. Gellir derbyn lifftiau gan rywun yn eu cartref neu swigen gefnogol, ond nid gan unrhyw un arall oherwydd y risg o drosglwyddo’r feirws.

Mae’r bwrdd iechyd wedi rhoi cymorth cludiant ar waith i unrhyw un a allai ei chael hi’n anodd mynychu eu hapwyntiad brechu. Os nad oes gennych unrhyw ffordd arall o deithio, cysylltwch â’r Bwrdd Iechyd ar 0300 303 8322 a byddwn yn hapus i gynorthwyo.

Dylai pawb yng ngrwpiau blaenoriaeth 1 i 4 fod wedi derbyn cynnig brechiad. Os na chysylltwyd â chi, neu os ydych wedi newid eich meddwl, cysylltwch â’ch meddyg teulu cyn gynted â phosibl. Rydym am gynnwys pawb.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle