Cynghorydd Peter Read, Pencampwr Anabledd Gwynedd yn cael ei gyhoeddi fel ymgeisydd Seneddol.

0
313
Cllr Peter Read

Mae Propel Cymru yn cyhoeddi Cynghorydd lleol poblogaidd Peter Read fel eu ymgeisydd yn Dwyfor Meirionydd yn Gwynedd. Mae Cynghorydd Read yn Bencampwr Anabledd i Cyngor Sir Gwynedd.

Cafodd Cynghorydd Read ei  ethol i Cyngor Sir Gwynedd am y tro cyntaf yn 2008 pan oedd brwydyr yn erbyn cynllun Plaid Cymru i gau ysgolion lleol. Daeth Cynghorydd Read i amlygrwydd yn 1995, pan wnaeth goroesi damwain hang glider, a wnaeth ei adael yn paraplegic. Os yw yn cael ei ethol, bydd Cynghorydd Read y person cyntef gyda anablaeth i gael ei ethol i’r Senedd.

Dwedodd Cynghorydd Read,

“Rwyf yn falch iawn o fod yn Gymro ac mae yn fraint i mi roi fy hyn ymlaen fel ymgeisydd i Dwyfor Meirionydd lle cefais fy eni a fy magu.

Wnai byth anghofio y cariad a’r cefnogaeth a gefais gan bobl yr ardal hon yr holl flynyddoedd yn ol pan gefais fy namwain. Y ddamwain sydd wedi fy wneud yn y person yr ydwyf heddiw a mi ydwi eisiau rhoi rhywbeth yn ol, wrth fod yn llais cryf yn y senedd.

Rwyf yn ddyledus iawn i’r NHS a mi wnai gwffio i wella y gwasanaeth sydd ar gael ar hyn o bryd i bobl Meirion Dwyfor. Mae llawer iawn o bobl o Meirionydd o dan anfantais mawr yn gorfod trafeilo hyd at 70 milltir i gael gwasanaeth gofal iechyd mewn Ysbyty. Mae yn bosib cael y’r anghenion yma ar sail lleol. Yn fy marn i dylai Ysbyty Blaenau Ffestiniog, er engrhaifft, gael ei adferwyd yn ol i gynnig cyfleusterau llawn, fuasau yn cynnwys ymgynghorwyr ac arbenigwyr ar y safle, i leihau amser trafeilio i gleifion.

Ymhellach i hyn, mae cau adranau damwain ac argyfwng lleol yn cael effaith niweideiol ar ein cymuned. Mae cyfleusterau, sydd wedi eu lleoli yn rhagorol, fel Allt Wen, Penmorfa, oherwydd y polisi yma, wedi dod yn ddim llawer mwy na cartref gofal. Rwyf yn barod i gwffio yn erbyn yr israddio yma ar ein rhan ni i gyd – rydym i gyd yn haeddu pecynnau gofal llawer gwell a chyson, a does dim rheswm yn y byd pam for pobl Meirion Dwyfor yn gorfod aros misoedd neu hyd yn oed blynyddoedd mewn rhai achosion, i gael gafael ar driniaeth, yn cynnwys triniaeth dentyddol.”

Dweddodd Arweinydd Propel Cymru, Neil McEvoy,

“Mae Cymru angen Pencampwr a mae gan Meirion Dwyfor un yn Peter Read. Yn ei fywyd mae Peter wedi gwynebu adfyd enfawr ac wedi dod allan yr ochr arall. Mae yn berson cryf o egwyddor a wneith gwffio yn erbyn unrhyw anghyfiawnder. Mae gan y bobl o Dwyfor Meirionydd ddewis rhwng dyn lleol gyda hanes profedig, sydd wedi cael ei drin yn sal gan Plaid Cymru neu gwleidydd gyrfa sydd yn sefydlog i Plaid sydd wedi cael ei parasiwtio o’r tu allan. Y tro diwethaf wynebodd Peter gwrthwynebydd mewn etholiad cafodd 80 y cant or bleidleisiau, sydd yn anhygoel. Mae Dwyfor Meirion yn sedd darged i ni. Mae yn ras dau geffyl.”

Biography

Mae Peter Read yn siaradwr Cymraeg  a gafodd ei eni a’i fagu yn Rhydyclafdy,Pen Llyn. Mi oedd yn mecanig am lawer o flynyddoedd yn Lleyn Tyres ym Mhwllheli.

Mae yn byw yn Pentreuchaf gyda ei wraig Nic a’u 2 mab. Mae yn hoff o ymlacio wrth cadw trefn ar yr ardd.

Yn 1995 pan oedd yn 28 oed cafodd ddamwain brawychus gyda hang gleidar ac roedd yn y’r ysbyty yn Gobowen, Oswestry am 18 mis. Gadawodd y ddamwain ef yn paraplegic, ond gwnaeth y profiad yma ryddhau cryfder mewnol yn Peter i ymladd adfyd a profi fod unrhywbeth yn bosib gyda penderfyniad pur a gwaith caled. Yn dilyn ei ryddhad o’r ysbyty aeth Peter i weithio i Honda fel gwerthwr ac atgyweirwr beiciau cwad.

Daeth Peter i gymeryd rhan mewn gwleidyddiaeth i arbed cau ysgolion lleol a cafodd ei etholi i Gyngor Sir Gwynedd yn 2008 gyda 58 y cant o’r pleidleisiau, yn 2012 enillodd Peter 80 y cant or bleidleisau ac roedd  heb ei herio yn 2017.

Mae Cynghorydd Peter Read yn Bencampwr Anabledd Gwynedd ac mae wedi treulio amser ar y Bwrdd Comisiwn Iechyd. Mi oedd yn offerynol yn y brwydyr i gael y cyllid a oedd angen i adeiladu ysgol anghenion arbennig newydd (Hafod Lon) yn Penrhyndaedraeth. Mae hefyd yn Gadeirydd ar Marina Pwllheli.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle